Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Mae Ysgol Cynwyd Sant wedi ennill cystadleuaeth ddigidol Undeb Rygbi Cymru ddwywaith!
Dydd Iau 02 Tachwedd 2023
Y dasg a osodwyd oedd dylunio ac adeiladu clwb rygbi at y dyfodol gan ddefnyddio Minecraft ar gyfer Addysg, a heb feddwl ddwywaith roedd disgyblion Ysgol Cynwyd Sant yn barod i wynebu’r her honno.
Dywedodd y Brifathrawes, Sarah Gwen Richards, “Mae’r gystadleuaeth hon wastad yn boblogaidd ymysg ein disgyblion gyda phob dosbarth o Flwyddyn 3 i 6 yn brysur yn cydweithio, dylunio a chystadlu’n frwd. Cynhaliom gystadleuaeth fewnol yn yr ysgol ac fe ddewiswyd grwpiau yn ôl y canlyniadau.
Mae’r gystadleuaeth hon wastad yn boblogaidd ymysg ein disgyblion gyda phob dosbarth o Flwyddyn 3 i 6 yn brysur yn cydweithio, dylunio a chystadlu’n frwd. Cynhaliom gystadleuaeth fewnol yn yr ysgol ac fe ddewiswyd grwpiau yn ôl y canlyniadau. Rydym yn hynod falch fod grŵp o Flwyddyn 6 a disgyblion o’n dosbarth anghenion dysgu cymedrol newydd wedi’u dewis i gystadlu yn y rowndiau terfynol rhanbarthol yn Stadiwm Principality. Cawsom ein trin fel sêr wrth i ni gael taith o amgylch y stadiwm a chael cyfarfod â chwaraewyr rhyngwladol. Roedd safon y gystadleuaeth yn eithriadol o uchel, ac rydym yn hynod falch o’n disgyblion a’u dyluniadau.


Pob tro y caiff y gystadleuaeth ei chynnal mae ‘na wefr yn yr ysgol ac ymysg y disgyblion a braf yw gweld cymaint o angerdd a balchder sydd gan y disgyblion dros yr hyn y maen nhw wedi’i greu. Mae hi’n dasg sy’n datblygu amrywiaeth o sgiliau ar draws y cwricwlwm ac rydym wedi sylwi ar welliant gwirioneddol wedi blwyddyn ar ôl blwyddyn o gystadlu.
Am anhygoel - i ennyn dysgwyr o bob rhan o’r ysgol i gymryd rhan mewn prosiect sydd nid yn unig yn datblygu dysgu annibynnol, ond sgiliau cydweithredol a chreadigrwydd hefyd, heb anghofio’r llu o nodweddion eraill, mae’r cyfle yma’n wych. Llongyfarchiadau i’r disgyblion a’r athrawon ac i URC am osod yr her! Arbennig yn wir!