Mae'r Cyngor yn gweithredu yn erbyn twyll gyda Gostyngiad y Dreth Gyngor i ddiogelu arian cyhoeddus

Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i erlyn preswylydd Pen-y-bont ar Ogwr am droseddau sy'n ymwneud â thwyll gyda Gostyngiad y Dreth Gyngor, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i ddiogelu arian cyhoeddus a sicrhau bod cymorth ariannol ar gael i'r rhai sy'n gymwys.  

Yn Llys Ynadon Caerdydd ar 12 Mehefin 2026, plediodd Justin Tellem, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn euog i bedair tramgwydd o dan Reoliadau'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013.

Roedd y troseddau yn cynnwys methiant Mr Tellem â hysbysu'r cyngor ei fod wedi dechrau cyflogaeth gyda thri chyflogwr ar wahân, gan arwain at gynnydd sylweddol yn ei enillion.  Methodd hefyd â datgan symiau yn ei gyfrif banc dros £10,700. Roedd y troseddau yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Ionawr 2020 ac Awst 2023. 

O ganlyniad i'r hawliadau twyllodrus, derbyniodd Mr Tellem £4,034.56 yn anghywir mewn Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y mae'n ofynnol iddo ei ad-dalu. Gosododd y llys ddirwy o £784, gordal dioddefwr o £314 a gorchmynwyd i Mr Tellem dalu £1,000 am gostau erlyn.

Atgoffir preswylwyr sy'n derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor i roi gwybod am newidiadau yn eu hincwm, cyflogaeth neu amgylchiadau ariannol cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn y lefel gywir o gymorth ac i osgoi'r risg o ordaliadau neu erlyniad. 

"Mae'r erlyniad hwn yn dangos y byddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n darparu gwybodaeth ffug yn fwriadol neu'n methu ag adrodd am newidiadau yn eu hamgylchiadau er mwyn hawlio arian cyhoeddus nad oes ganddynt hawl i'w dderbyn. "Mae pob punt a gollir i dwyll yn arian na ellir ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyngor hanfodol neu drigolion sydd wir angen cymorth ariannol. "Byddwn yn parhau i ymchwilio i amheuon o dwyll ac erlyn troseddwyr lle bo hynny'n briodol a dylai'r achos hwn fod yn rhybudd bod twyll gyda Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn drosedd gyda chanlyniadau cyfreithiol posibl."

Chwilio A i Y

Back to top