Mae'r Wythnos Diogelu Genedlaethol yn amlygu niwed cudd yn ein cymunedau
Dydd Gwener 06 Tachwedd 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi'r Wythnos Diogelu Genedlaethol (9–13 Tachwedd 2026), gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amddiffyn plant ac oedolion rhag cam-drin, esgeuluso a chamfanteisio.
Gan weithio ochr yn ochr â Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg a phartneriaid ledled Cymru, mae'r cyngor yn tynnu sylw at thema leol eleni, 'Niwed Cudd yn ein Cymunedau', gan annog pobl i adnabod arwyddion niwed a siarad pan fydd ganddynt bryderon.
Gall niwed cudd fod ar sawl ffurf, o gam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth i ganfanteisio ar-lein, cam-drin ariannol ac esgeuluso. Nid yw'r materion hyn bob amser yn weladwy ar unwaith a gallant effeithio ar bobl o bob oedran a chefndir.
Drwy gydol yr wythnos, bydd rhaglen o weithgareddau dysgu ac ymwybyddiaeth yn archwilio materion diogelu allweddol, gan gynnwys diogelwch ar-lein, camfanteisio ar blant, cam-drin domestig, diogelu oedolion a dysgu o adolygiadau ymarfer.
Mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau ar gyfer staff y cyngor a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws ystod o wasanaethau, gyda chyfleoedd dysgu ychwanegol yn cael eu cynnal trwy gydol mis Tachwedd.
Nid yw cam-drin, esgeuluso a chamfanteisio bob amser yn hawdd i'w hadnabod, ac efallai na fydd pobl sy'n dioddef niwed yn teimlo eu bod yn gallu codi llais neu ofyn am help. Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol yn ein hatgoffa mai cyfrifoldeb pawb yw diogelu. Trwy godi ymwybyddiaeth o'r arwyddion o niwed cudd ac annog pobl i rannu eu pryderon, gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl yn ein cymunedau. Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch neu les rhywun, peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod am eich pryderon. Gallai codi llais wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Anogir preswylwyr i barhau i fod yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw bryderon am ddiogelwch neu les plentyn neu oedolyn sydd mewn perygl.
Gallwch roi gwybod am bryderon am blentyn i Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH) y cyngor ar 01656 642320, a gallwch roi gwybod am bryderon am oedolyn sydd mewn perygl ar 01656 642477.
Ar gyfer argyfyngau gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 01443 743665. Os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu a sut i roi gwybod am bryder, ewch i dudalen we Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr | Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH).