Maes Parcio'r Rhiw i aros ar agor tan hanner nos wrth i newidiadau mawr gael eu cyflwyno

Dydd Iau 01 Hydref 2026

Bydd maes parcio aml-lawr y Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn aros ar agor tan hanner nos fel rhan o dreial tri mis, gan helpu i gefnogi economi'r dref yn ystod y nos.

Mae'r newidiadau yn cael eu cyflwyno o 1 Tachwedd 2026, yn ogystal â system dalu newydd a diogelwch uwch.

Fel rhan o'r newidiadau, bydd y maes parcio hefyd yn dod yn faes parcio talu ac arddangos yn hytrach na'r system dalu wrth adael bresennol. Bydd angen i unrhyw un sy'n defnyddio'r maes parcio arddangos tocyn dilys ar eu ffenestr flaen, ar wahân i ddeiliaid Bathodyn Glas neu'r rhai sy'n talu ar-lein drwy'r ap. 

Bydd y cynnig parcio am ddim tair awr presennol yn parhau i fod ar waith ac ni fydd unrhyw gynnydd i dariffau parcio. Bydd angen i unrhyw un sy'n defnyddio'r cynnig arddangos tocyn o hyd, ond bydd y tocyn yn dangos nad oes tâl yn daladwy.

Ni fydd tâl am barcio ar ôl 6pm, ac ni fydd angen i unrhyw un sy'n parcio ar ôl y pwynt hwn arddangos na phrynu tocyn.

Yn ogystal â'r newidiadau yn y Rhiw, mae'r cyngor hefyd yn newid ei ddarparwr talu am barcio ar-lein ar draws ei holl feysydd parcio. Bydd PayByPhone yn cael ei ddisodli gan RingGo, gan roi ffordd arall i yrwyr dalu am barcio gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol.

"Mae'r newidiadau ym maes parcio aml-lawr y Rhiw yn ymwneud â sicrhau bod y cyfleuster yn adlewyrchu anghenion pobl sy'n defnyddio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig yn ystod y nos. "Rydym hefyd yn cydnabod bod y cyhoedd eisiau teimlo'n hyderus ac yn sicr wrth ddefnyddio ein meysydd parcio yn y nos a dyna pam rydym yn cynyddu nifer y camerâu teledu cylch cyfyng yn y maes parcio ochr yn ochr â phresenoldeb staff diogelwch yn ystod yr oriau estynedig. "Bydd y treial yn ein galluogi ni i fonitro sut mae'r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr oriau ychwanegol ac ystyried y trefniadau y tu hwnt i'r cyfnod tri mis cychwynnol."
maes parcio aml-lawr y Rhiw

Chwilio A i Y

Back to top