Maesteg yn gwirioni ar stondin lemonêd entrepreneur ifanc

Dydd Mercher 27 Awst 2025

Cafodd siopwyr ym Maesteg drît hyfryd yn ddiweddar pan sefydlodd Matilda, sy'n chwech oed, wyres perchennog Go Bananas Hayley Morgan, ei stondin lemonêd ei hun yn siop y teulu.

Fel rhan o'i rhestr wirio ar gyfer y gwyliau ysgol, gweinodd Matilda gwsmeriaid a gafodd roi cynnig ar ei lemonêd cartref, gan godi cyfanswm o £112. Gan ddangos aeddfedrwydd y tu hwnt i'w hoedran, dewisodd Matilda roi ei henillion i Many Tears Animal Rescue, achos sy'n agos at ei chalon fel un sy’n hoff iawn o anifeiliaid.

“Rydyn ni mor falch o Matilda. Mae hi wastad wedi bod yn hoff o anifeiliaid, ac roedd ei gweld hi'n meddwl am y syniad hwn a gwneud iddo ddigwydd yn wych. Rhoddodd ei chalon i mewn iddo ac roedd ein cwsmeriaid wrth eu bodd â'i hegni."
"Mae Matilda wedi gwneud rhywbeth mor hyfryd yn ei chymuned ac mae ei gweld hi’n rhoi'r arian mae hi wedi'i godi o'i stondin lemonêd i elusen yn twymo’r galon. Mae gweld ymateb trigolion Maesteg i'w stondin wedi bod yn wych ac mae’n hynod ysbrydoledig gweld y fath benderfyniad gan rywun mor ifanc. Gallwn ni i gyd ddysgu rhywbeth neu ddau gan Matilda."

Wedi'i galw'n egin entrepreneur gan ei theulu, gwnaeth ymdrechion Matilda ddal dychymyg cwsmeriaid, a ganmolodd ei hysbryd cymunedol a'i synnwyr busnes. Dywedodd llawer fod ei brwdfrydedd a'i haelioni yr un mor hyfryd â'r lemonêd ei hun.

Mae gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ofod dros dro llwyddiannus ym Maesteg gyda For a Limited Time Only…? ond profodd Matilda y gall y fenter leiaf gael effaith fawr.

Dymunwn seibiant haeddiannol i Matilda dros weddill ei gwyliau ysgol ac edrychwn ymlaen at ei chefnogi gyda'i metrau yn y dyfodol!

Matilda, 6, gyda'i mam-gu Hayley Morgan, y tu allan i'w stondin lemonêd yn Go Bananas ym Marchnad Maesteg.
Matilda, 6, gyda'i mam-gu Hayley Morgan, y tu allan i'w stondin lemonêd yn Go Bananas ym Marchnad Maesteg.

Chwilio A i Y

Back to top