Dweud eich dweud: Ymgynghoriad Cyllideb 2026
Natur yn cael help llaw fel rhan o brosiect mannau naturiol newydd
Dydd Llun 26 Ionawr 2026
Bydd trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweld gwelliannau sylweddol i fannau gwyrdd lleol dros y 15 mis nesaf wrth i brosiect i greu lleoedd naturiol mwy croesawgar ddechrau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn bron i £962,000 gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2025-27, sydd â'r nod o ddatblygu mannau naturiol newydd mewn rhannau trefol o'r fwrdeistref sirol.
Mae wedi'i chynllunio i gynnig ystod eang o fanteision megis dod â natur yn agosach at stepen drws pobl, cefnogi bywyd gwyllt a chysylltedd cynefinoedd, gwella iechyd a lles, annog mwy o ryngweithio cymdeithasol, meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach, a chreu lleoedd mwy diogel a mwy deniadol i bobl eu mwynhau.
Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o brosiectau allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys trawsnewid rhan ddyfrlawn o Gaeau Aber yn Nant-y-moel yn gymysgedd o wlyptir a choetir gyda banciau o flodau gwyllt brodorol, llwyfan wylio â seddi, a llwybrau hygyrch newydd.
Yng Nghoed Collwyn yn y Pîl, bydd y bartneriaeth yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Cymuned y Pîl i fynd i'r afael ag erydiad glannau'r afon ac i greu gofod naturiol newydd sbon i bobl leol ei fwynhau. Yn Sarn, bydd y prosiect yn gweithio gyda Valleys To Coast i ymgynghori â'r gymuned a darparu cyfleusterau newydd fel perllannau cymunedol, ardaloedd i dyfu bwyd, lle ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, cynefinoedd newydd i beillwyr, plannu synhwyraidd, mynediad gwell a mwy.
Gan weithio gyda Tanio a Phartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y prosiect hefyd yn sefydlu cyfres o leoedd ledled y fwrdeistref sirol sy'n addas ar gyfer tyfu bwyd, ynghyd â gwelyau plannu a seilwaith angenrheidiol arall.
Yn olaf, bydd y prosiect yn dod â The Orchard Project, Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig, Parc Gwledig Bryngarw a byddin fach o wirfoddolwyr at eil gilydd i sefydlu perllannau ffrwythau treftadaeth newydd sbon ledled y fwrdeistref sirol.
Bydd y perllannau hyn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddadansoddi ac adnabod mathau anhysbys o ffrwythau, wrth gefnogi bioamrywiaeth a pheillio yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer cynaeafu cymunedol, hyfforddiant a mwy.
“Gan fod cyfranogiad y gymuned yn ganolog i lwyddiant y fenter werdd hon a groesewir yn fawr, mae'r cyngor a Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn gwahodd ysgolion, cynghorau cymuned a grwpiau lleol i rannu eu syniadau eu hunain am sut y gellid cefnogi a datblygu natur ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac i bobl leol gymryd rhan yn y prosiectau amrywiol. “Mae hon yn addo bod yn fenter werth chweil iawn a fydd yn gwneud cyfraniad mawr at fywyd cymunedol, ac rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ymateb gyda'u syniadau neu i gael gwybod sut i wirfoddoli a helpu i wneud y gwelliannau hyn yn llwyddiant i'r gymuned gyfan.”
Am ragor o wybodaeth neu i gyflwyno eich syniad eich hun, ewch i dudalen Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â biodiversity@bridgend.gov.uk neu ewch i https://www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/natur-a-r-amgylchedd/grant-lleoedd-lleol-ar-gyfer-natur/