Newidiadau i'r Gwasanaeth Bywydau a Rennir i roi cymorth tecach i ofalwyr
Dydd Llun 19 Hydref 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig newidiadau i'w Wasanaeth Bywydau a Rennir fydd yn creu model tecach a mwy cynaliadwy i ofalwyr ac yn cefnogi twf y gwasanaeth cymunedol hanfodol hwn yn y dyfodol.
Mae Bywydau a Rennir yn cynnig cyfle i oedolion sydd angen gofal a chymorth fyw fel rhan o aelwyd deuluol gyda gofalwyr Bywyd a Rennir cymeradwy, gan greu opsiwn personol ochr yn ochr ag opsiynau gofal preswyl a byw â chymorth.
Bydd y newidiadau arfaethedig yn cyflwyno system dalu newydd â bandiau ar gyfer gofalwyr, gan sicrhau bod taliadau'n adlewyrchu'n lefel y cymorth sy'n cael ei ddarparu yn well. Nod y dull diwygiedig yw creu mwy o degwch a chysondeb o fewn y gwasanaeth cyfan, tra'n helpu i ddenu a chadw gofalwyr yn y dyfodol.
Yn bwysig, bydd gofalwyr presennol a fyddai’n derbyn llai o gymorth o dan y trefniadau newydd yn cael eu diogelu trwy drefniant "dim niwed", sy'n golygu y byddant yn parhau i dderbyn eu lefel bresennol o daliad am hyd at ddwy flynedd tra bo’r system newydd yn cael ei rhoi ar waith.
"Mae gofalwyr Bywydau a Rennir yn cyflawni rôl hynod bwysig wrth gefnogi rhai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed, ac mae'n hanfodol eu bod yn cael eu cydnabod yn deg am y gofal a'r gefnogaeth maen nhw'n eu darparu. Mae'r cynigion hyn wedi'u datblygu i greu strwythur tecach o daliadau sy'n adlewyrchu gwahanol lefelau cymorth yn well, ac yn diogelu gofalwyr presennol yn ystod y cyfnod pontio. Bydd y newidiadau yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth ac yn cefnogi ein huchelgais i groesawu mwy o ofalwyr Bywydau a Rennir yn y dyfodol."
Mae'r cynigion yn dilyn cyfnod o ymgynghori â gofalwyr, pobl a gefnogir gan y gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill. Gwnaeth adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ddylanwadu'n uniongyrchol ar yr argymhellion, gan gynnwys y penderfyniad i amddiffyn wrth bontio ar gyfer gofalwyr presennol.
Mae'r cyngor hefyd yn cynnig newidiadau i'r trefniadau cyfraniadau sy'n cael eu talu gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Byddai unrhyw gynnydd yn cael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod o dair blynedd i helpu i sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn gallu ymdopi.
Mae Bywydau a Rennir yn cael ei gydnabod fel un o'r mathau mwyaf cost-effeithiol o ofal a chymorth, sydd hefyd yn galluogi pobl i fyw fel rhan o leoliad teuluol a chymunedol. Mae'r cyngor yn credu y bydd y newidiadau arfaethedig yn cryfhau'r gwasanaeth ac yn helpu i gwrdd â'r galw cynyddol yn y dyfodol.
#Bydd yr argymhellion nawr yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar ddydd Mawrth 20 Hydref 2026.