O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Newyddion da i ailddatblygiad Pafiliwn y Grand wrth i’r Cyngor gymeradwyo cyllid ar gyfer y cam nesaf
Dydd Gwener 14 Mawrth 2025
Mewn cyfarfod o’r Cyngor ddoe (12 Mawrth), cytunodd yr aelodau etholedig i roi £4m o’r arian gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i’r cam tyngedfennol nesaf ym mhrosiect ailddatblygu Pafiliwn y Grand, Porthcawl fynd yn ei flaen.
Mae cyllid wedi cael ei sicrhau fel rhan o’r cytundeb gweithio ar y cyd newydd rhwng y cyngor a Llywodraeth Cymru, sydd wedi caniatáu i’r awdurdod lleol fuddsoddi cyllid ychwanegol i raglen adfywio Porthcawl, a chefnogi prosiectau penodol, fel ailddatblygu Pafiliwn y Grand.
Mae cymeradwyo’r cyllid yn caniatáu cychwyn ar gam nesaf y gwaith ailddatblygu ar yr adeilad eiconig, rhestredig Gradd II, a gellir cytuno ar y broses ar gyfer cymeradwyo cais ar gyfer y prif waith adeiladu cytundebol.
Cafodd yr adeilad eiconig gyllid o £18m gan Lywodraeth y DU i ailddatblygu a gwarchod y tirnod a drysorir, yn dilyn cais llwyddiannus gan y cyngor a’i bartneriaid, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Yn dilyn proses ymgynghori gyhoeddus hirfaith, mae’r cynlluniau terfynol yn cynnwys cynnal ac atgyweirio rhai o nodweddion Art Deco eiconig yr adeilad, gan gynnwys y tŵr cloc a’r ffenestri lliw, ochr yn ochr ag estyniadau newydd yn cynnwys pafiliwn ben to gwydr gyda golygfeydd tuag at Fôr Hafren, lifft i ymwelwyr, awditoriwm, oriel, cyfleusterau toiled ac ardaloedd cefn tŷ ategol.
Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwaith adfer ystyriol o do cromennog gwreiddiol yr adeilad, gydag insiwleiddiad newydd, a’r ceiliog y gwynt gwreiddiol, ar ffurf forol unigryw, yn cael ei ailosod.
“Mae hyn yn newyddion cyffrous i brosiect Pafiliwn y Grand. Rydym eisoes wedi cymryd camau breision yn y rhaglen, gyda’r gwaith paratoi cychwynnol, gan gynnwys gwagio tu mewn yr adeilad, bellach wedi’i gwblhau. Roedd y gwaith hwn yn hanfodol i adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion strwythurol cyn i’r gwaith adeiladu mawr ddechrau.” “Diolch i’n partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ar adfywio ardal Glannau Porthcawl yn ehangach, mae sicrhau’r cyllid hwn yn golygu y gallwn symud ymlaen â’r prif waith adeiladu a bwrw ymlaen â’n cynlluniau i roi bywyd newydd i’r adeilad hanesyddol hwn.” “Bydd ein camau nesaf yn canolbwyntio ar weithio’n rhagweithiol gyda’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i sicrhau’r cyllid sydd ei angen ar gyfer ffitiadau mewnol yr adeilad, a fydd yn cwblhau’r prosiect ailddatblygu ac yn caniatáu i ni ailagor y lleoliad celfyddydol a diwylliannol gwych yma er budd y gymuned leol unwaith eto.”
“Fel elusen gofrestredig, mae gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen hanes rhagorol o godi arian a chyflwyno prosiectau cyllid llwyddiannus, gydag effaith gymdeithasol amlwg.” “Mae gennym darged codi arian heriol o’n blaenau, ond byddwn yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda chydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w gyflawni. Mae’n huchelgais yn parhau fel y bu erioed, i ailagor Pafiliwn y Grand gyda gofynion o ansawdd uchel a ddisgwylir gan y gymuned leol, ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn yn lansio ein hymgyrchoedd codi arian dros y misoedd nesaf, a diolch i bawb o flaen llaw am eu cefnogaeth.”
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn parhau i ddifyrru cynulleidfaoedd yn ystod y cyfnod ailddatblygu gyda rhaglen o ddigwyddiadau ‘Pafiliwn dros dro’ yng Nghanolfan Gymunedol Awel-y-Môr, Porthcawl ac mewn lleoliadau cymunedol eraill. Bydd y digwyddiadau misol hyn yn cynnwys jazz, nosweithiau comedi, dawns de, sinema, theatr amser cinio a sioeau teuluol.
Ewch i www.awenboxoffice.com neu dilynwch Bafiliwn y Grand ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.