Nodi Wythnos Gofalwyr ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Llun 08 Mehefin 2026
Heddiw, rydym yn nodi dechrau Wythnos Gofalwyr 2026, sy'n gyfle i gydnabod a dathlu cyfraniad anhygoel gofalwyr di-dâl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn gynharach heddiw fe wnaethom godi baner y Gofalwyr yn y Swyddfeydd Dinesig. Byddwn hefyd yn goleuo'r adeilad yn las a gwyn heno, ac ar 14 Mehefin, i nodi dechrau a diwedd yr wythnos bwysig hon.
Bob dydd, mae miloedd o bobl yn cynnig gofal a chymorth di-dâl i aelodau o'r teulu, ffrindiau a chymdogion na fyddent yn gallu ymdopi hebddyn nhw. Mae eu hymroddiad, eu tosturi a'u hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau'r rhai y maent yn gofalu amdanynt ac i'n cymunedau ehangach.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda gofalwyr, sefydliadau partner, a chymunedau lleol i wella'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn wedi cynnwys cryfhau ein Gwasanaeth Lles i Ofalwyr, datblygu cyfleoedd lles newydd, ehangu cefnogaeth i ofalwyr ifanc, a gweithio ochr yn ochr â gofalwyr i lunio gwasanaethau yn y dyfodol trwy gyd-gynhyrchu ac ymgysylltu.
Mae llawer o ddigwyddiadau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod Wythnos Gofalwyr (8–14 Mehefin).
Wythnos Gofalwyr 2026
Dydd Mawrth 9 Mehefin 'Rhaglen Seibiant Gofalwyr' Halo yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr - yn cynnig i ofalwyr di-dâl pobl sy'n byw gyda dementia a cholli cof y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau ymarfer corff, ymlacio a lles, ynghyd â mynediad at gyfleusterau ffitrwydd Halo Leisure.
Dydd Mercher 10 Mehefin Halo 'Teimlo'n Dda am Oes', Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (2pm–4pm) Gwella'ch cryfder, eich cydbwysedd a'ch cydsymud trwy gemau hwyl yn y pwll nofio ac yna te, coffi, atgofion a gweithgareddau cymdeithasol gan gynnwys gemau bwrdd, cwisiau a cherddoriaeth fyw.
Bydd Bavo's Navigators yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer digwyddiad arbennig yng Nghaffi Cymunedol Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddod â gofalwyr di-dâl o bob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr ynghyd. Cyfle i glywed yn uniongyrchol gan ofalwyr am sut olwg sydd ar fywyd bob dydd iddynt, yr heriau y maent yn eu llywio, a'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i barhau yn eu rolau gofalu hanfodol.
Age without Limits – diwrnod gweithredu ar weithgarwch (10am – 1pm) – rydym yn herio canfyddiadau. Cyfle i fod yn egnïol, creadigol, casglu gwybodaeth a chwrdd â ffrindiau newydd.
Atal a Lles Bydd Gofalwyr Ifanc a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn mynychu Ysgol Gyfun Maesteg (11am – 12 hanner dydd) i gefnogi gyda gwerthiant pobi cacennau a drefnir gan y Cenhadon Gofalwyr Ifanc.
Atal a Lles Bydd Gofalwyr Ifanc a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn mynychu Ysgol Gyfun Pencoed (1:25pm – 1:55pm) i gefnogi gyda gwerthiant pobi cacennau a drefnir gan y Cenhadon Gofalwyr Ifanc.
Dydd Iau 11 Mehefin Halo 'Teimlo’n Dda am Oes' ar-lein (2.15pm – 3.30pm) - gwella eich cryfder, eich cydbwysedd a'ch cydsymud trwy ystod o weithgareddau aerobig hwyl ac addasadwy ar-lein ac yna'r cyfle i gymdeithasu a chymryd rhan mewn cwisiau, cydganu a mwy, i gyd o gysur eich cartref eich hun!
Bydd Bavo's Navigators yn mynychu'r digwyddiad Age without Limits, Diwrnod Gweithredu ar Weithgarwch ym Mhorthcawl (10am – 1pm). Digwyddiad hwyl, rhad ac am ddim sy'n dathlu heneiddio egnïol a chreadigol.
Gwasanaeth Lles Gofalwyr Ifanc, sesiwn Bracla (4.30pm – 6pm) parti i ddathlu a chydnabod yr holl waith caled y mae gofalwyr ifanc yn ei wneud.
Dydd Gwener 12 Mehefin 2026 Bydd Atal a Lles Gofalwyr Ifanc y cyngor a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn mynychu 'Her Craceri' Ysgol Gyfun Porthcawl a drefnir gan y Cenhadon Gofalwyr Ifanc.
Halo ‘Teimlo’n Dda am Oes', Canolfan Gymunedol Gogledd Corneli, 1.30pm – 3.15pm.
Bydd Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr a Tuvia mewn gwahanol leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod yr wythnos i gynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd, Jane Gebbie, sy’n ofalwr di-dal: "Mae Wythnos Gofalwyr yn amlygu’r rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae yn ein cymunedau ac yn gweld unigolion a sefydliadau yn dod at ei gilydd i ddarparu cymorth i ofalwyr a chynnal gweithgareddau.
"Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mae ychydig dros 15,000 o ofalwyr di-dâl. Mae rôl bod yn ofalwr yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd. Er ein bod ni’n gwybod bod llawer yn teimlo mai gofalu yw un o'r pethau pwysicaf a wnânt, ni ddylid tanbrisio ei heriau. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod y cyfraniad y mae gofalwyr yn ei wneud ac yn helpu i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt."
Os oes angen cymorth arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i'r Dudalen Lles Gofalwyr ar wefan y cyngor.