Pafiliwn y Grand yn cael hwb o £1.4m gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Dydd Iau 25 Medi 2025

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y bydd y gwaith parhaus i adfywio a thrawsnewid Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl yn cael hwb ychwanegol o £1.4m mewn cyllid.

Mae'r lleoliad rhestredig Gradd II wedi'i gadarnhau’nn o 40 o safleoedd ledled Cymru a fydd yn elwa o gyfran o raglen fuddsoddi newydd gwerth £8 miliwn mewn gwaith adeiladu ac adfywio.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, fe wnaeth Jack Sergeant, y Gweinidog Diwylliant, ddisgrifio Pafiliwn y Grand fel 'trysor cymunedol' a dywedodd ei fod yn "...un o 40 o sefydliadau sy'n cynrychioli craidd bywyd diwylliannol ym mhob cwr o Gymru."

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am y cyfraniad sylweddol hwn tuag at gost ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Pafiliwn y Grand, yn enwedig gan ei fod yn dilyn y cyhoeddiad cynharach gan Lywodraeth Cymru am £4m ychwanegol ar gyfer y prosiect. "Mae Pafiliwn y Grand yn parhau i fod yn un o'n hadeiladau tirnod mwyaf eiconig, a bydd y cyllid yn cefnogi camau gwaith ailddatblygu yn y dyfodol a fydd yn ceisio cadw ei arwyddocâd diwylliannol wrth ehangu'r gwasanaethau y gall eu darparu i bobl leol, gan ei wneud yn hyb cymunedol go iawn.

Yn dilyn gwaith paratoi a gwblhawyd gan Pritchard's Demolition a Severn Insulation Ltd, penododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen Andrew Scott Ltd i ymgymryd â'r gwaith adfer hanfodol o'r adeilad 92 oed ym mis Gorffennaf diwethaf. Dechreuodd y gwaith yn gynharach yr haf hwn, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn 2027.

Chwilio A i Y

Back to top