O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Paratoadau yn eu lle ar gyfer cyfnod pontio gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu
Dydd Mercher 20 Mawrth 2024
Mae’r cynlluniau ar gyfer newid darparwr gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu y cyngor yn eu lle wrth i’r contractwr newydd, Plan B Management Solutions, baratoi i gymryd drosodd gan Kier Group Ltd, sy’n dod at ddiwedd eu gwasanaeth.
Er mwyn paratoi ar gyfer y newid ddydd Mawrth 2 Ebrill, ni fydd y porth ailgylchu a gwastraff ar-lein ar gael dros dro rhwng hanner dydd, ddydd Iau 28 Mawrth a hanner nos, nos Sul 31 Mawrth.
Cynghorir trigolion sy’n dymuno archebu blychau ailgylchu newydd yn lle eu hen rai, neu sydd eisiau archebu casgliad gwastraff sylweddol, i gyflwyno eu harchebion cyn 28 Mawrth, neu ar ôl 31 Mawrth.
Ni fydd unrhyw newidiadau i ddiwrnodau casgliadau nac amlder casgliadau ar garreg y drws, a bydd aelwydydd yn parhau i ddefnyddio’r un blychau ailgylchu a ddefnyddir ar hyn o bryd.
Bydd Plan B Management Solutions hefyd yn cymryd rheolaeth o ganolfannau ailgylchu cymunedol a’r cerbydau sydd eisoes yn bodoli, peiriannau ac offer a ddefnyddir gan y Kier Group ar hyn o bryd.
Rwy’n falch iawn o groesawu Plan B Management Solutions fel ein partner gwastraff ac ailgylchu newydd. Mae eu profiad amlwg a’u hymrwymiad i ragoriaeth gwasanaeth yn dod â chyfoeth o brofiad a fydd yn sicr o arwain at wasanaeth rheoli gwastraff gwell, mwy effeithiol i’n cymunedau o ganlyniad. Hoffwn argyhoeddi trigolion y bydd cyn lleied â phosibl o darfu ar wasanaethau yn ystod cyfnod y newid a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Kier Group am eu blynyddoedd o wasanaeth i’n cymuned a dymuno’n dda iddynt yn y dyfodol
Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu’r staff sy’n trosglwyddo drosodd, ac mae gennym berthynas â llawer ohonynt eisoes fel rhan o’n trefniadau gyda Kier. Mae nifer o’r staff Plan B wedi bod yn ymwneud â’r contract Pen-y-bont ar Ogwr ers 2016 ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r cyngor a chyflwyno mentrau newydd y bydd y gymuned leol yn elwa ohonynt