Partner gwasanaethau gwastraff y Cyngor yn lansio cronfa gymunedol ar gyfer prosiectau lleol
Dydd Gwener 30 Ionawr 2026
Mae partner gwastraff ac ailgylchu’r cyngor, Plan B Management Solutions, yn darparu £10,000 o gyllid grant i fudiadau cymunedol a gwirfoddol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae mentrau a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, gan gynnwys grwpiau gwirfoddol a chymunedol, elusennau, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol sydd â chloeon asedau, Cymdeithasau Budd Cymunedol, ac ysgolion cymwys, yn cael eu hannog i wneud cais am grantiau o'r gronfa gymunedol, cyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 20 Mawrth 2026.
Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau ag amcanion elusennol sefydliad, ac nid yw gweithgareddau fel gwasanaethau statudol, gweithgarwch gwleidyddol, hyrwyddo crefyddol, triniaeth feddygol, costau ôl-weithredol, neu brosiectau y tu allan i'r fwrdeistref sirol yn gymwys.
Rhaid i sefydliadau cymwys fod wedi bod yn gweithredu ers o leiaf flwyddyn, bod â chyfrifon wedi'u llofnodi, ac yn gallu dangos budd i’r gymuned yn y fwrdeistref sirol. Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau llai sydd ag incwm blynyddol o dan £250,000.
Mae buddsoddiad cymunedol yn rhan allweddol o ymrwymiad gwerth cymdeithasol y bartneriaeth, gyda Plan B yn rhoi mwy na 71,000 o eitemau i fanciau bwyd, gan gynnwys dros 7,000 o eitemau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig, yn ystod 2024-25.
Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol yn allweddol wrth gefnogi lles trigolion a chryfhau ein cymunedau. Rwy'n falch o weld ein partner yn chwarae rôl hanfodol y tu hwnt i wasanaethau rheng flaen a buddsoddi'n uniongyrchol mewn mentrau lleol, a byddwn yn annog sefydliadau cymwys i ystyried gwneud cais.
I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar wneud cais, gall sefydliadau gysylltu â: