Partner hyfforddi lleol yn ehangu gyda chymorth busnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 05 Medi 2025

Mae partner hyfforddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ehangu eu busnes yn ddiweddar gyda chymorth Tîm Datblygu Economaidd a Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Sefydlwyd Bowtec UK, sydd wedi'i leoli yn y Pîl, yn 2022 i ddarparu hyfforddiant achrededig o ansawdd uchel i fusnesau a’u gweithwyr gadw’n ddiogel yn ystod y gwaith. Maent yn ddarparwr hyfforddiant niwclear cymeradwy gydag achrediadau lluosog ac wedi ffurfio partneriaeth gyda sawl sefydliad ledled y DU, gan gynnwys Hinkley Point C, prosiect adeiladu mwyaf Ewrop.

Dyfarnwyd Grant i Fusnesau Newydd gwerth £4,000 i'r cwmni i gefnogi'r gwaith o brynu rig hyfforddi newydd, sydd yn caniatáu i'r cwmni hyfforddi gynyddu ei allu hyfforddi ac mae hefyd wedi helpu i greu swyddi, gyda 3 gweithiwr newydd yn ymuno â'r tîm.

Aeth y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai i ymweld â'r tîm yn eu canolfan hyfforddi ar Ystâd Ddiwydiannol y Pîl yn ddiweddar.

, "Mae cael y grant hwn wedi bod yn hwb enfawr i'n busnes; rydym wedi gallu prynu rig pwrpasol ar gyfer rigio a chodi, sydd wedi'i gynllunio'n arbennig i sicrhau bod ein dysgwyr yn gallu cael profiad ymarferol. Rydym wedi cael cefnogaeth enfawr gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd yn anrhydedd mawr croesawu'r Maer a'r Cynghorydd Farr i'n canolfan hyfforddi. Diolch yn fawr iawn i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr am eu cefnogaeth barhaus i'n helpu i dyfu, creu cyfleoedd, a buddsoddi yn y gymuned leol. Rydym yn falch o fod yn chwifio'r faner i Ben-y-bont ar Ogwr yn y sector ynni a hyfforddiant."
Roedd yn brofiad hyfryd cwrdd â'r tîm yn Bowtec a gweld y manteision y mae'r grant busnesau newydd wedi gallu eu rhoi iddyn nhw. Roedd y rig pwrpasol yn beiriant trawiadol iawn a bydd yn ychwanegiad mor ddefnyddiol i'w hyfforddiant. Fel cyngor, rydym yn falch o gynnig ystod o gefnogaeth i bobl sy'n dechrau busnesau neu fusnesau sydd eisiau cynyddu eu presenoldeb ac mae Bowtec yn enghraifft berffaith o hyn."

Os ydych chi'n bwriadu dechrau busnes ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac am wybod mwy am gyfleoedd ariannu, cysylltwch â'r tîm Busnes yn businessfunds@bridgend.gov.uk

(O'r chwith i'r dde) Y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Paul, Callum, a'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai yn sefyll gerllaw y rig pwrpasol newydd yng nghanolfan hyfforddi Bowtec yn y Pîl.
(O'r chwith i'r dde) Y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Paul, Callum, a'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai yn sefyll gerllaw y rig pwrpasol newydd yng nghanolfan hyfforddi Bowtec yn y Pîl.

Chwilio A i Y

Back to top