Pen-y-bont ar Ogwr yn codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr

Dydd Iau 19 Tachwedd 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr ddydd Iau 19 Tachwedd drwy annog preswylwyr i gydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae yn ein cymunedau a darganfod mwy am y cymorth sydd ar gael.

Mae thema eleni, 'Mae rhywun rydych chi'n ei adnabod yn ofalwr – ond a ydyn nhw'n gwybod hynny eto?', yn tynnu sylw at y bobl sy'n darparu gofal a chefnogaeth i rywun sy'n agos atyn nhw heb gydnabod eu hunain fel gofalwr o reidrwydd.

Gall gofalu fod ar sawl ffurf, o helpu rhywun gyda thasgau bob dydd a mynychu apwyntiadau, i reoli meddyginiaeth neu ddarparu cefnogaeth emosiynol. I lawer o bobl, mae'r cyfrifoldebau hyn yn syml yn rhan o fywyd bob dydd.

Nod Diwrnod Hawliau Gofalwyr yw codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr a sicrhau bod pobl sy'n darparu gofal di-dâl yn gwybod ble i droi am wybodaeth, cyngor a chymorth.

I ddangos cefnogaeth i’r diwrnod ymwybyddiaeth, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu goleuo'r Swyddfeydd Dinesig yn las a gwyn ddydd Iau 19 Tachwedd, gan gydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y fwrdeistref sirol.

“Mae llawer o bobl ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gofal a chymorth i rywun sy'n agos atyn nhw heb gydnabod eu hunain fel gofalwr o reidrwydd. Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn gyfle pwysig i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i'n cymunedau, codi ymwybyddiaeth o'u hawliau ac atgoffa pobl bod cymorth ar gael. Rydym eisiau i bawb sy'n darparu gofal di-dâl wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac y gallant gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth i'w helpu yn eu rôl ofalu."

Fel rhan o’r gweithgareddau sy’n nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, mae'r cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Halo Leisure ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen drwy Rwydwaith Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal dathliad arbennig i ofalwyr ifanc 5-11 oed. 

Yn cael ei gynnal ar 19 Tachwedd, bydd y digwyddiad yn dod â mwy na 100 o ofalwyr ynghyd o dros 10 o ysgolion cynradd ledled y fwrdeistref sirol, gyda chefnogaeth Llysgenhadon Gofalwyr Ifanc ysgolion uwchradd.

Bydd y dathliad yn gyfle i bobl ifanc feithrin cyfeillgarwch, cysylltu ag eraill sy'n rhannu profiadau tebyg a dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael drwy'r rhwydwaith a'i bartneriaid.

Gall gofalwyr di-dâl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth drwy Tuvida – Gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

Anogir preswylwyr sy'n darparu gofal di-dâl, neu sy'n meddwl y gallent fod yn ofalwyr, i ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen gwe Gofalwyr y cyngor.

Chwilio A i Y

Back to top