Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Maer bellach ar agor - Gwneud enwebiad
Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy
Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng nghystadleuaeth flynyddol Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru (CGFFfC), a gynhaliwyd yng Ngholeg Pen-coed ar 18 Tachwedd.
Yn cydnabod Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr (PBCP) am ei harweinyddiaeth wrth hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a ffynonellau lleol, mae'r Wobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn adlewyrchu'r sylfeini cryf sydd wedi’u hadeiladu trwy gydweithredu ledled y sir, gan uno trigolion, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau bwyd i greu system fwyd leol decach a gwyrddach.
Dan ofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gyda chefnogaeth Synnwyr Bwyd Cymru, lansiwyd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr yn gynnar yn 2024 i ddod â thyfwyr, busnesau, addysgwyr a sefydliadau cymunedol at ei gilydd. Mae'r bartneriaeth yn adeiladu mudiad bwyd lleol sy'n cefnogi iechyd, gweithredu ar yr hinsawdd, a'r economi leol.
I nodi'r wobr a cham nesaf y daith, mae'r bartneriaeth wedi lansio gwefan newydd sy'n cynnwys gwybodaeth am brosiectau lleol, adnoddau, digwyddiadau, a chyfleoedd i drigolion, ysgolion a busnesau gymryd rhan.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.bridgendfoodpartnership.co.uk/cy/.
"Rwy'n falch iawn bod y bartneriaeth wedi cael ei gwobrwyo am ei gwaith cydweithredol i fynd i'r afael â rhai o heriau bwyd mwyaf dybryd heddiw - o dlodi bwyd a salwch yn gysylltiedig â diet i gefnogi cynhyrchwyr lleol a lleihau gwastraff bwyd. "Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o ba mor bell mae'r bartneriaeth wedi dod, ond mae hefyd yn alwad i barhau i adeiladu momentwm. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn dangos mor bwerus y gall cydweithio fod wrth greu system fwyd decach a mwy gwydn ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr."