Pen-y-bont ar Waith
Dydd Gwener 20 Mawrth 2026
Bydd Pen-y-bont ar Waith yn darparu gwasanaeth gweladwy, ymatebol a rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar wella glendid, ymddangosiad a chyflwr dyddiol cymdogaethau, canol trefi a mannau cymunedol ledled y fwrdeistref sirol.
Bydd y tîm yn darparu ymateb cyflym a hyblyg i faterion amgylcheddol, ac yn darparu gwelliannau ymarferol a gweladwy i fannau cyhoeddus gan gynnwys:
- Casglu sbwriel a glanhau amgylcheddol cyffredinol
- Rheoli chwyn a thorri glaswellt
- Golchi palmentydd a chelfi stryd â jet
- Gwaredu graffiti
- Ailbaentio a gwneud mân atgyweiriadau i seilwaith cyhoeddus
- Mynd i'r afael â’r problemau sy'n difetha’r amgylchedd fel tipio anghyfreithlon, gan gynnwys ar dir preifat lle mae pwerau'n caniatáu
Bydd y tîm hefyd yn gwneud gwelliannau gweladwy ar raddfa fach i fannau lleol, megis:
- Cynlluniau plannu newydd a phlannu tymhorol
- Adfer ac adnewyddu asedau tir cyhoeddus
- Atgyweirio neu ailosod celfi stryd
Dull sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned
Bydd y tîm yn gweithredu ar sail cymunedau yn gyntaf ac yn targedu meysydd lle mae angen gwelliannau fwyaf, gan weithio'n agos gydag:
- Aelodau Ward
- Cynghorau Tref a Chymuned
- Swyddogion gorfodi
- Trigolion lleol
Manteision Ehangach i Gymunedau
Trwy wneud y gwelliannau hyn, bydd y tîm yn darparu gwasanaeth amlwg iawn a fydd yn helpu i wneud mannau cyhoeddus yn lanach, yn wyrddach, yn fwy diogel ac yn fwy croesawgar i drigolion, gan wella hyder mewn gwasanaethau lleol a:
- Lleihau cwynion ailadroddus
- Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwella bywiogrwydd canol y dref
- Cefnogi bioamrywiaeth a mannau gwyrddach
- Cryfhau balchder a lles cymunedol
Prosiectau Presennol
Ymunodd Aelodau'r Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd (Rhannu Swydd) â'r Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, â'r Cynghorydd Eugene Caparros yng ngham cyntaf y prosiect, gan weithio i glirio swm trawiadol o 547kg o sbwriel a oedd wedi'i dipio’n anghyfreithlon ar dir rhwng Railway Terrace a rhan o Lwybr Cwm Llynfi yng Nghaerau, Maesteg.
Cwestiynau Cyffredin
Bydd y tîm yn darparu gwasanaeth ymateb cyflym ymarferol i fynd i'r afael â phroblemau lefel is ac amgylcheddol sy'n cael effaith sylweddol ar ganfyddiadau trigolion o ddiogelwch, balchder a lles.
Mae'r tir cyhoeddus yn ymddangos fel blaenoriaeth uchel i drigolion yn yr ymgynghoriad cyllideb diweddar. Mewn ymateb, rydym wedi buddsoddi £1.5 miliwn ychwanegol yn y gwasanaethau hyn, gan ddangos ymrwymiad y Cyngor i gynnal a gwella ein mannau cyhoeddus a'n hamgylchedd lleol.
Bydd y tîm yn gwneud gwelliannau cyhoeddus fel casglu sbwriel, torri glaswellt, gwaredu graffiti, gwneud mân atgyweiriadau, ymdrin â thipio anghyfreithlon, golchi â jet, ailbaentio, plannu a gwneud gwelliannau i asedau tir cyhoeddus mewn cymdogaethau, canol trefi, a mannau cymunedol ledled y fwrdeistref sirol.
Bydd y tîm yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau presennol fel gwastraff, priffyrdd, gwasanaethau rheoliadol a rennir, a gorfodi, gan ddarparu haen ychwanegol o gymorth i helpu i fynd i'r afael â materion sy'n aml yn disgyn rhwng gwasanaethau, neu sydd angen ymateb ymarferol cydgysylltiedig.
Bydd y tîm yn targedu'r meysydd lle mae angen gwelliannau fwyaf, ac yn gweithio'n agos gydag Aelodau Ward, Cynghorau Tref a Chymuned, swyddogion Gorfodi a thrigolion lleol, i nodi lleoliadau blaenoriaeth gan gynnwys mannau lleol lle mae problemau ar eu gwaethaf, pwysau tymhorol, digwyddiadau cymunedol a mentrau adfywio.
Bydd gwneud gwaith ataliol, cynnal a chadw, a gwelliannau mewn mannau cyhoeddus yn cyfrannu at gymunedau balch, cryfach, glanach a mwy croesawgar, yn gwella hyder yng ngwasanaethau'r Cyngor, ac yn ymestyn oes asedau presennol, gan helpu i leihau costau amnewid tymor hwy.
Os ydych wedi sylwi ar broblem yn eich ardal, gallwch roi gwybod amdani ar ein gwefan (mewnosod tudalen we rhoi gwybod am broblem) neu drwy gysylltu â'ch cynghorydd lleol.
Wrth adrodd am broblem i ni, rhowch gynifer o fanylion defnyddiol â phosib, gan gynnwys y dyddiad a’r amser pan sylwoch chi ar y broblem, ei lleoliad, eich enw a’ch rhif ffôn cyswllt yn ystod y dydd.