Penodi prif gontractwr yn paratoi'r ffordd ar gyfer cam mawr nesaf ailddatblygu Pafiliwn y Grand
Dydd Llun 14 Gorffennaf 2025
Mae gwaith ailddatblygu Pafiliwn y Grand Porthcawl wedi cymryd cam sylweddol arall yn ei flaen gyda chyhoeddi prif gontractwr adeiladu.
Ochr yn ochr â'u partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont wedi penodi Andrew Scott Cyf fel contractwr swyddogol gwaith adfer yr adeilad rhestredig Gradd II, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cam nesaf y prosiect.
I ddechrau, cafodd Prichard's Demolition y dasg o gyflawni’r gwaith galluogi, gan gynnwys tynnu elfennau mewnol i fynd â'r adeilad yn ôl i'w gragen goncrit wreiddiol, a gwnaeth Severn Insulation Ltd yn ymgymryd yn ofalus â’r gwaith o gael gwared ar asbestos o’r adeilad 92 oed.
Mae Andrew Scott Ltd ar y safle bellach i ddechrau'r prif waith adeiladu, sy'n anelu nid yn unig at adfer yr ased treftadaeth hanesyddol hwn i'w hen ogoniant ond hefyd gwella'r adeilad rhestredig Gradd II i ddarparu gwell gwasanaethau celf, diwylliant a threftadaeth i'r fwrdeistref sirol. Bydd y gwaith ar y gweill o'r haf hwn tan 2027.
Wedi'i drwytho mewn hanes lleol balch a phwysig, mae gan yr adeilad gwirioneddol eiconig hwn le arbennig yng nghalonnau llawer o bobl. Mae hwn yn gam cyffrous ymlaen i'r prosiect hwn ac rydym yn falch iawn o benodi’r busnes lleol, Andrew Scott Ltd, fel y prif gontractwr ar gyfer y gwaith adfer. Bydd eu harbenigedd helaeth o ran yr amgylchedd adeiledig a'u hymrwymiad i brosiectau ailddatblygu hanesyddol yn chwarae rhan hanfodol yn ein gweledigaeth i ddod â'r adeilad poblogaidd hwn yn ôl i ddefnydd gyda nodweddion gwell i'n cymunedau eu mwynhau unwaith eto.
Fel mae ailagor Neuadd y Dref Maesteg wedi’i ddangos, mae adfywio adeiladau treftadaeth ddiwylliannol yn chwarae rhan hanfodol mewn ymdrechion i adfywio canol trefi ac yn cefnogi'r economi leol drwy greu lleoedd bywiog i fyw, gweithio ac ymweld â nhw. Mae penodi Andrew Scott yn garreg filltir allweddol ym mhrosiect ailddatblygu Pafiliwn y Grand wrth i gymuned Porthcawl ddechrau gweld y lleoliad yn cael ei adfer a'i ail-eni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Edrychwn ymlaen at ddod â newyddion am gynnydd y gwaith wrth iddo fynd rhagddo.
Mae tîm Andrew Scott yn falch o fod yn rhan o'r gwaith o adfer adeilad hanesyddol mor eiconig, gan helpu i’w ddychwelyd i’w hen ogoniant yn lleoliad glan môr hyfryd Porthcawl.
Mae'r prosiect wedi derbyn adborth cadarnhaol gan drigolion a rhanddeiliaid eraill sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn amrywiol ddigwyddiadau ymgysylltu, gyda sesiwn arall wedi'i chynllunio ar gyfer mis Medi.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn ystod y cyfnod ailddatblygu gyda rhaglen o ddigwyddiadau 'Pafiliwn Dros Dro' yng Nghanolfan Gymunedol Awel-y-Môr, Porthcawl ac mewn lleoliadau eraill yn y gymuned. Bydd y digwyddiadau misol hyn yn cynnwys jazz, nosweithiau comedi, dawnsfeydd te, sinema, theatr amser cinio a sioeau i’r teulu.
Ewch i www.awenboxoffice.com neu dilynwch Pafiliwn y Grand ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion ddiweddaraf.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU, y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG), Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chyllid Trawsnewid Trefi Cymru Llywodraeth Cymru.

