Bydd Cymru’n pleidleisio ddydd Iau 7 Mai 2026. Ewch i'n tudalen wybodaeth Etholiad y Senedd.
Porthcawl i gynnal twrnamaint golff mawreddog am y pedwerydd tro
Dydd Gwener 17 Ebrill 2026
Bydd pencampwriaeth Agored Hŷn ISPS HANDA yn dychwelyd am y pedwerydd tro i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl ym mis Gorffennaf 2027, gan gryfhau enw da y fwrdeistref sirol ymhellach fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer twristiaeth a digwyddiadau mawr.
Y digwyddiad yw unig Brif Bencampwriaeth Golff Hŷn Ewrop ac mae'n denu sylw cyfryngau byd-eang, ynghyd â nifer fawr o wylwyr a chyfranogiad gan rai o fawrion y gamp.
Mae cyn-sêr Cwpan Ryder fel Pádraig Harrington, Colin Montgomerie, Thomas Bjorn a Darren Clarke i gyd wedi cystadlu yn y twrnamaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynghyd â phobl fel Ernie Els, Miguel Ángel Jiménez a Bernhard Langer.
Mae'r cwrs yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl wedi'i osod yn erbyn cefndir Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr ac mae'n cael ei gydnabod yn eang fel un o gyrsiau cyswllt gorau'r DU, ar ôl cynnal sawl digwyddiad proffil uchel yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Pencampwriaeth Agored Merched AIG, yn ogystal â phencampwriaethau amatur mawr.
"Rydym yn falch iawn o weld Pencampwriaeth Agored ISPS HANDA yn dychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl yn 2027, ac mae hwn yn arwydd o ffydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr. "Bydd y digwyddiad yn rhoi hwb i'r economi leol, tra'n parhau i godi proffil Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Clwb Golff Brenhinol Porthcawl bellach yn cael ei gydnabod yn eang ledled y byd fel cwrs golff o'r radd flaenaf, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gyflwyno pencampwriaeth lwyddiannus arall sy'n dod â manteision i drigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr."
"Mae Clwb Golff Brenhinol Porthcawl yn lleoliad pwysig i’r R&A ac mae ganddo hanes y gall fod yn falch ohono o lwyfannu pencampwriaethau proffesiynol ac amatur mawreddog. "Cawsom Bencampwriaeth Agored Merched AIG wych y llynedd ac roedd y chwaraewyr yn mwynhau pob eiliad o chwarae ar y cwrs gwych hwn. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf ar gyfer Prif Bencampwriaeth Agored ISPA HANDA a mwynhau wythnos fythgofiadwy arall o golff."
Mae'r bencampwriaeth yn cael ei chyd-gymeradwyo gan y Staysure Legends Tour a PGA TOUR Champions a bydd rhagor o fanylion am y digwyddiad yn cael eu cyhoeddi maes o law.