Prif Weithredwr newydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Iau 03 Ebrill 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi y bydd Jake Morgan yn ymuno â'r awdurdod ym mis Gorffennaf fel ei Brif Weithredwr newydd.

Penodwyd Jake gan yr aelodau yn dilyn proses recriwtio ac asesu rymus a ddaeth i ben gyda chyfarfod Cyngor arbennig a gynhaliwyd ddydd Mercher 2 Ebrill.

Yn cael ei gyflogi ar hyn o bryd fel Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Jake yn dod o Swydd Gaerloyw. Ar ôl symud i fyw a gweithio yng Nghymru 20 mlynedd yn ôl, mae wedi adeiladu dros 30 mlynedd o brofiad helaeth yn gweithio o fewn llywodraeth leol gan gyflawni nifer o rolau uwch. 

Mae'r rhain yn cynnwys arwain ar amrywiol swyddogaethau corfforaethol a phrosiectau adfywio, gweithredu fel cadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, a chyflawni nifer o rolau ar lefel cyfarwyddwr mewn meysydd gwasanaeth allweddol megis Addysg, Gwasanaethau Plant, Tai a Hamdden.

“Gyda’i lwyddiant blaenorol nodedig a’i brofiad amrywiol o weithio mewn nifer o uwch rolau llywodraeth leol, mae Jake mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu arweinyddiaeth strategol ochr yn ochr ag aelodau etholedig wrth i ni barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol. “Rydym yn parhau i wynebu adnoddau cynyddol gyfyngedig fel awdurdod lleol, ac mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod hynod heriol i lywodraeth leol. Roedd yn hanfodol dod o hyd i’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rôl, a chredaf ein bod wedi cyflawni hyn. “Nid yn unig y mae Jake yn meddu ar yr holl rinweddau cywir i gynnig arweiniad rhagorol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae ganddo ddealltwriaeth glir o’r heriau sy’n ein hwynebu, a bydd yn galluogi’r awdurdod i adeiladu ar gyfleoedd i ddiogelu a gwella gwasanaethau.”
Arweinydd y Cyngor, John Spanswick yn croesawu Jake Morgan, Prif Weithredwr newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
“Fel rhywun sy’n cael ei ysgogi gan gred yng ngallu llywodraeth leol i drawsnewid cymunedau a gwella bywydau pobl, mae’r ffyrdd arloesol y mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi gallu datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau hanfodol wedi creu argraff arnaf. “Mae hwn yn gyfle cyffrous, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â staff ac aelodau etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i drigolion lleol.”

Chwilio A i Y

Back to top