Proses dendro i ddechrau ar gyfer adeilad newydd Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig
Dydd Mawrth 20 Mai 2025
Mae'r broses i benodi contractwr fel rhan o gynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ar fin dechrau wedi i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu cymeradwyo.
Byddai'r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar dir sydd ar hyn o bryd yn gartref i adran iau Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig a byddai'n gweithredu ar sail un safle, gan ddod â'r holl grwpiau blwyddyn at ei gilydd yn yr un lleoliad.
Mae'r ysgol hefyd wedi'i chynllunio gyda nodweddion cynaliadwy a bydd yn ysgol carbon sero-net.
Yn ogystal â'r ystafelloedd dosbarth, mae'r ysgol deulawr yn cynnwys plaza dysgu dan do, prif neuadd, neuadd stiwdio ategol, mannau chwarae awyr agored, a chaeau pob tywydd, y gallai grwpiau a sefydliadau cymunedol eu defnyddio hefyd. Mae cyfleusterau beicio wedi'u cynnwys ar gyfer disgyblion a staff, ynghyd â chyfleusterau parcio ar gyfer yr ysgol, sy'n cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Mae cynllun tirlunio sylweddol hefyd yn rhan greiddiol o’r dyluniad a bydd rhandiroedd diogel newydd yn cael eu creu i'r gogledd o'r safle, yn darparu 26 o leiniau unigol.
Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo dyddiad agor diwygiedig ar gyfer yr ysgol ym mis Medi 2027, fydd yn cyd-daro â dechrau blwyddyn academaidd 2027/28. Ymgynghorwyd â chorff llywodraethu'r ysgol, ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.
Yn amodol ar gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol, bydd yr awdurdod lleol wedyn mewn sefyllfa i roi’r cynllun i dendr. Bydd canlyniad y broses dendro yn cael ei adrodd i'r Cabinet pan fydd wedi'i chwblhau.
"Mae darparu cyfleusterau ysgol o'r radd flaenaf, sy’n fodern ac yn gynaliadwy, i'n disgyblion a'n cymunedau lleol yn un o'n prif flaenoriaethau fel Cabinet ac mae dechrau'r broses dendro yn garreg filltir allweddol yn y prosiect pwysig hwn. "Mae hwn yn brosiect sydd â’r gymuned yn greiddiol iddo, ac mae lefel yr ymgysylltu gan y gymuned leol a'r disgyblion wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y prosiect hyd yn hyn. Mae'n wych y bydd yr ysgol yn un Garbon Sero-Net, a gallai arwain at lawer o fuddion amgylcheddol ac ariannol. "Disgwylir i'r cais cynllunio gael ei ystyried yn y Pwyllgor Rheoli Datblygiadau yn y dyfodol agos ac edrychaf ymlaen at toi diweddariadau pellach maes o law."
