Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Prydau ysgol am ddim wedi'u hymestyn i fwy o ddisgyblion ysgol uwchradd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Iau 03 Medi 2026
Bydd mwy o ddisgyblion ysgol uwchradd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o flwyddyn ysgol 2026-27, yn dilyn newidiadau i drothwyon cymhwysedd Credyd Cynhwysol.
Bydd disgyblion cymwys ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn elwa o'r ddarpariaeth estynedig, gyda cheisiadau’n agor yr wythnos hon. Yna, bydd y ddarpariaeth newydd yn lansio yn fuan wedyn.
Mae'r newid yn golygu y bydd mwy o deuluoedd sy'n bodloni'r trothwy Credyd Cynhwysol diwygiedig yn gallu cael mynediad at brydau ysgol am ddim i'w plant.
"Rydyn ni’n falch o allu ymestyn mynediad at brydau ysgol am ddim i fwy o blant a phobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. I deuluoedd, gall cost darparu prydau maethlon bob dydd fod yn bwysau sylweddol, felly gall y cymorth ychwanegol hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod disgyblion cymwys yn gallu elwa o'r ddarpariaeth cyn gynted â phosibl. Byddwn ni’n annog rhieni a gofalwyr disgyblion ym Mlynyddoedd 7 ac 8 i fynd draw i wefan y Cyngor i wirio eu cymhwysedd a gweld manylion am sut i wneud cais."
Dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol nad yw hyn yn darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ymhob pob grŵp blwyddyn uwchradd. Mae'r ddarpariaeth newydd yn berthnasol yn benodol i ddisgyblion cymwys ym Mlynyddoedd 7 ac 8.
Nid oes angen i ddisgyblion sydd eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim cymwys (eFSM) wneud cais eto. Bydd eu hawl bresennol yn parhau.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am bwy sy'n gymwys a sut i wneud cais, ar gael ar wefan y Cyngor.
Anogir rhieni a gofalwyr i gadw llygad ar sianeli cyfathrebu'r Cyngor i gael y wybodaeth ddiweddaraf.