Pwll nofio Lido a reidiau ffair newydd sbon wedi'u cynllunio i Borthcawl wrth i'r cyngor ddatgelu cynigion adfywio terfynol
Dydd Mawrth 04 Tachwedd 2025
- Pwll nofio Lido a champfa sydd ymhlith ychwanegiadau newydd i’r cynlluniau adfywio
- Reidiau ffair newydd i greu tirnodau eiconig ar lan y môr a dathlu treftadaeth Porthcawl
- Uchder adeiladau wedi’i leihau a llai o gartrefi wedi'u cynllunio yn yr ardal adfywio
- Mae gwedd newydd glan y môr yn cynnwys gwesty a phromenâd newydd ar Draeth Coney a Sandy Bay
- Mae mwy o fannau cyhoeddus awyr agored, cyfleusterau cymunedol a llwybrau cerdded a beicio wedi’u cyhoeddi
- Pobl leol yn cael blaenoriaeth o ran tai, gydag ymrwymiad i gyfyngiadau ar dai haf / ail gartrefi
- Gwahoddir y cyhoedd i weld cynlluniau yn y Hi Tide ar 25 Tachwedd 2025 neu yn www.porthcawlwaterfront.co.uk
Mae cynigion i greu pwll nofio awyr agored ar ffurf Lido a reidiau ffair newydd sbon a fydd yn dirnodau eiconig wedi'u datgelu fel rhan o uwchgynllun adfywio terfynol ardal Glannau Porthcawl.
Wedi'i gynhyrchu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae'r uwchgynllun yn ceisio taro’r cydbwysedd cywir rhwng gofynion hamdden, twristiaeth, tai a busnes ym Mhorthcawl wrth flaenoriaethu anghenion pobl leol.
Wedi'i ddatblygu ar ôl blynyddoedd o ymchwil gynhwysfawr, ymgysylltu â'r farchnad, astudiaethau technegol ac ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, mae'n cynnwys ystod eang o syniadau ar gyfer cyfleusterau ac atyniadau ar y safle 38 hectar. Cafodd y rhan fwyaf o’r rhain eu hawgrymu'n uniongyrchol gan drigolion lleol a rhanddeiliaid.
Ymhlith y syniadau sy'n cael eu datblygu mae cynlluniau i ddarparu pad sblash , golff mini, trac pwmp, parc sglefrio, ardal gemau aml-ddefnydd, cwrt pêl-fasged, parciau poced, llwybrau ffitrwydd, waliau dringo, gerddi cymunedol ac ardaloedd chwarae amrywiol gyda phethau i blant o wahanol oedrannau. Mae’r cyfan wedi'i gydgysylltu drwy rwydwaith o lwybrau i gerddwyr a beicwyr.
Gyda chyfleoedd ar gyfer siopau, caffis, bwytai, bariau a chiosgau newydd wedi'u gwasgaru ledled yr ardal adfywio, mae'r uwchgynllun hefyd yn cynnwys parc arfordirol newydd, arena awyr agored, gwesty o ansawdd uchel, adeiladau a phafiliynau y gellir eu defnyddio gan grwpiau cymunedol, safle ar gyfer cartrefi modur a charafanau teithiol, a digon o fannau agored sy'n addas ar gyfer cynnal ffeiriau tymhorol, marchnadoedd, gwyliau a digwyddiadau.
Gyda Sandy Bay bellach o dan berchnogaeth gyhoeddus, mae'r uwchgynllun yn annog mwy o ddefnydd o’r traeth a'r tir cyfagos at ddibenion digwyddiadau newydd, ac mae diddordeb sylweddol eisoes wedi bod mewn sefydlu gweithgareddau sy'n amrywio o ysgolion syrffio a sawnas i hyfforddiant ffitrwydd ar y traeth, dosbarthiadau ioga awyr agored a mwy. Mae'r cynllun hefyd yn sicrhau bod y cynefinoedd twyni cyfagos yn Rhych Point yn cael eu rheoli a'u hadfer yn ofalus fel y gellir defnyddio'r tir at ddibenion addysgol a hamdden.
Byddai'r pwll nofio Lido wedi'i leoli yn Salt Lake gyferbyn â'r marina lle byddai'n cynnwys campfa, bwyty, caffi a chyfleusterau cysylltiedig eraill. Byddai'r reidiau ffair yn rhan o safle newydd sydd wedi'i leoli ar ochr arall Salt Lake, yn agos at siop fwyd Aldi, a fyddai'n cynnig gofod digwyddiadau cyhoeddus newydd a fyddai’n arbenigo mewn adloniant awyr agored, bwyd a diod.
Gydag offer a chyfleusterau newydd i'w helpu i'w wneud yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau chwaraeon, bydd Parc Griffin yn treblu o ran maint o dan y cynllun ac yn cynnwys 'coridor gwyrdd' newydd gyda nodweddion newydd. Bydd hyn yn mynd yn ôl i lan y môr lle bydd amddiffynfeydd arfordirol grisiog yn cael eu gosod fel rhan o bromenâd newydd i roi gwell amddiffyniad yn ogystal â mynediad at Draeth Coney a Sandy Bay.
Mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan breswylwyr, mae'r elfen dai o'r uwchgynllun wedi'i lleihau i oddeutu 980 o gartrefi, ac mae uchder yr adeiladau wedi cael ei leihau 20 y cant. Felly ni fydd strwythurau a oedd yn 5-6 llawr o uchder yn wreiddiol yn dalach na 3-4 llawr erbyn hyn.
Bydd hyd at hanner y tai newydd yn cael eu categoreiddio’n dai fforddiadwy, a byddant wedi'u cynllunio'n benodol i weddu i gymuned gymysg o deuluoedd, pobl hŷn, cyplau, unigolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain, gweithwyr allweddol, cyn-filwyr a mwy.
Gyda chymysgedd o fathau o ddeiliadaeth, gan gynnwys perchnogaeth a rennir a chost isel, mae'r cyngor yn bwriadu blaenoriaethu pobl leol yn y ddarpariaeth o dai. Mae hefyd yn bwriadu gosod cyfyngiadau ar y defnydd o unedau preswyl yn y dyfodol a fydd yn eu hatal rhag cael eu defnyddio fel tai haf neu ail gartrefi.
Ystyriwyd y ddarpariaeth parcio car gydag ymchwil helaeth wedi’i chynnal dros gyfnod o bedair blynedd. Bydd safleoedd parcio gan gynnwys maes parcio awyr agored wedi'i adnewyddu yn Hillsboro a maes parcio cyhoeddus newydd yn Nhraeth Coney yn cael eu sefydlu i ymdopi â'r galw rheolaidd, ac mae'r cyngor yn y broses o adnabod safle ar gyfer maes parcio ychwanegol i ddarparu ar gyfer achlysuron pan fo lefelau ymwelwyr ar eu huchaf.
"Mae uwchgynllun Adfywio Glannau Porthcawl terfynol yn ddarn hynod arwyddocaol o waith sydd wedi bod yn cael ei wneud. "Er ei fod yn ategu datblygiadau lleol eraill fel adnewyddu parhaus gwerth miliynau o Bafiliwn y Grand, mae'n adlewyrchu ein penderfyniad i daro'r cydbwysedd cywir rhwng tai a chyfleusterau cymunedol, twristiaeth a hamdden, cyfleoedd i alluogi busnesau newydd i ffynnu a mwy. "Bydd cyflawni ei amcanion yn broses hirdymor a fydd yn gofyn am ganiatâd cynllunio, cyllid priodol a phartneriaid cyflawni, ond rhoddwyd pwyslais enfawr ar sicrhau ei bod yn parhau i fod yn hygred ac yn realistig. Mae'r uwchgynllun yn dangos cwmpas ein huchelgeisiau ar gyfer Porthcawl, a'n dymuniad i weithio gyda phobl leol i adfywio'r dref a gwireddu dyfodol y gellir credu ynddo."
"Wrth ddylunio'r uwchgynllun terfynol, rydym wedi cyflawni ein haddewid i wrando ar bobl leol ac adlewyrchu'r hyn maen nhw eisiau ei weld tra hefyd yn sicrhau bod y cynigion yn parhau i fod yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn gyflawnadwy. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hon a hefyd i’n partneriaid adfywio yn Llywodraeth Cymru. "Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cymryd peth amser i astudio'r uwchgynllun a'r ymatebion i gwestiynau cyffredin yr ydym wedi'u paratoi cyn dod draw i'r digwyddiad cyhoeddus a rhoi eu barn i ni. Gyda 10 ymgynghoriad wedi'u cynnal yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig, mae ymgysylltu â'r cyhoedd wedi profi i fod yn gonglfaen o sut mae'r cynllun hwn wedi datblygu, ac rwy'n credu y byddwn gyda'n gilydd yn darparu dyfodol lle gall Porthcawl ddatblygu ac esblygu i gynnig profiad glan môr traddodiadol tra hefyd yn gwasanaethu anghenion lleol fel tref arfordirol fodern."
"Mae'r cynllun hwn yn gam chyffrous ymlaen i Borthcawl, gan ail-ddychmygu yr ardal glan y môr i ddarparu dros 900 o gartrefi ac atyniadau newydd sy'n dathlu treftadaeth y dref. "Trwy roi pobl leol wrth wraidd adfywio, rydym nid yn unig yn diogelu cymeriad unigryw'r dref ond hefyd yn datgloi ei photensial llawn fel lle bywiog a chroesawgar i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu dyfodol sy'n cydbwyso cartrefi, treftadaeth a chyfleoedd."
Cwestiynau Cyffredin
- Ydy – mae'r uwchgynllun wedi'i adeiladu yn sgil ymgysylltu â'r cyhoedd, adborth ac astudiaethau helaeth a gynhaliwyd dros nifer o flynyddoedd.
- Mynychodd bron i 1,000 o bobl yr ymgynghoriad uwchgynllun diweddaraf i weld cynlluniau, cynnig barn a gofyn cwestiynau, ac fe wnaethom hefyd dderbyn adborth ar-lein neu uniongyrchol gan fwy na 400 o bobl.
- Yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig, rydym wedi cynnal 10 ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân ar gynigion adfywio (gweler isod).
- Mae adborth gan bobl o bob oed a chefndir wedi'i ddadansoddi a'i fwydo'n ôl i'r cynllun cyfredol.
- Mae'r uwchgynllun terfynol yn adlewyrchu safbwyntiau ac anghenion trigolion tra'n parhau i fod yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn gallu darparu dyfodol cynaliadwy hirdymor i Borthcawl.
- Rydyn ni eisiau i Borthcawl esblygu, nid aros yn ei hunfan a sefyll yn stond. Mae'r uwchgynllun yn dangos ein gobeithion, ein dyheadau a'n huchelgeisiau ar gyfer y dref, ac yn amlinellu sut rydym yn bwriadu gweithio gyda datblygwyr i wneud iddo ddigwydd.
- Mehefin 2021 - Gorffennaf 2021 Ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd
- Awst 2021 Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ynghylch Strategaeth Creu Lleoedd
- Hydref 2021 Ymgynghoriad Gorchymyn Prynu Gorfodol
- Tachwedd 2021 Ymgynghoriad ar y Strategaeth Creu Lleoedd
- Mehefin 2022 Ymgynghoriad ar Feddiannu Tir ym Mharc Griffin a Bae Sandy
- Chwefror 2023 Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ynghylch Dylunio Cysyniad Gofod Agored
- Ebrill 2023 Ymgynghoriad Dylunio Cysyniadol Mannau Agored
- Ionawr 2024 Ymgynghoriad Strategaeth Creu Lleoedd Canol Trefi
- Hydref 2024 Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ynghylch yr Uwchgynllun
- Chwefror 2025 Ymgynghoriad ar yr Uwchgynllun
- Datblygiad pwll nofio Lido ym mhen harbwr Salt Lake sy'n cynnwys campfa, gwesty o ansawdd uchel, bwyty, caffi, adeilad defnydd cymunedol newydd a mwy.
- Safle newydd ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus ar yr ochr o Salt Lake lle mae siop fwyd, gyda reidiau ffair, gofod perfformio a chyfleoedd i ddarparu bwyd, diod ac adloniant.
- Pad sblash , golff mini, trac pwmp, parc sglefrio, ardal gemau aml-ddefnydd, cwrt pêl-fasged, parciau poced, llwybrau ffitrwydd, waliau dringo, gerddi cymunedol ac ardaloedd chwarae amrywiol gyda phethau i blant o wahanol oedrannau. Mae’r cyfan wedi'i gydgysylltu drwy rwydwaith o lwybrau i gerddwyr a beicwyr.
- Gyda llawer o gyfleoedd i agor siopau, caffis, bwytai, bariau a chiosgau newydd, mae'r uwchgynllun hefyd yn cynnwys lle i arena awyr agored newydd, adeiladau y gellir eu defnyddio gan grwpiau cymunedol, parc arfordirol, pafiliynau cymunedol, safle ar gyfer cartrefi modur a charafanau teithiol, tir at ddefnydd addysgol, a digon o fannau agored sy'n addas ar gyfer cynnal ffeiriau, gwyliau, marchnadoedd, a digwyddiadau tymhorol.
- Yn ogystal, nawr bod Bae Sandy o dan berchnogaeth gyhoeddus, byddwn yn gwella mynediad lleol ac yn annog y defnydd ohono at ddibenion gweithgareddau newydd fel gwersi syrffio a dosbarthiadau ffitrwydd awyr agored, ioga awyr agored ac ati.
- Bydd pob un o'r uchod yn gofyn am bartneriaid cyflenwi priodol, caniatâd cynllunio a ffynonellau cyllid addas, ond maent yn arwydd o'r mathau o gyfleuster yr ydym yn ceisio gweithio gyda datblygwyr i'w darparu.
- Disgwylir i boblogaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynyddu i 13,700 o bobl erbyn y flwyddyn 2033.
- Ym Mhorthcawl, mae mwy na 280 o bobl ar y rhestr dai ar hyn o bryd yn aros am lety addas i fod ar gael.
- Oni bai ein bod yn adeiladu mwy o dai, ni fydd pawb yn cael cartref yn y dyfodol.
- Mae adfywio yn cael ei ariannu trwy werthu tir ar gyfer datblygu, felly trwy ddarparu tai sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gallwn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a chynhyrchu arian sy'n talu am seilwaith newydd.
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru eisoes wedi cytuno y bydd hyd at hanner y tai newydd yn cael eu dyrannu fel rhai fforddiadwy.
- Bydd yn addas ar gyfer cymuned gymysg lawn o deuluoedd, pobl hŷn, cyplau, unigolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain, gweithwyr allweddol, cyn-filwyr a mwy.
- Rydym yn bwriadu cynnal amrywiaeth o fathau o ddeiliadaeth gan gynnwys rhannu perchnogaeth a pherchnogaeth cartref cost isel i bobl nad oes angen tai cymdeithasol arnynt, ond na allant fforddio prynu'n lleol am werthoedd marchnad agored.
- Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu blaenoriaethu pobl leol yn y ddarpariaeth o dai a gosod cyfyngiadau ar y defnydd o unedau preswyl yn y dyfodol rhag cael eu defnyddio fel tai haf neu ail gartrefi.
- O dan y cynlluniau, bydd ffordd fynediad newydd yn cael ei hadeiladu i gysylltu â'r tai ym Mae Sandy.
- Bydd hyn yn golygu y gall gyrwyr osgoi ceisio cael mynediad at y safle trwy New Road, Sandy Lane neu Rhych Avenue.
- Bydd y ffordd newydd yn cael ei halinio mor bell i'r de â phosibl i osgoi cyfyngu ar estyniad Parc Griffin a’r gwaith o greu 'coridor gwyrdd' newydd.
- Nac ydyn – bwriad y tai yw helpu i ddiwallu anghenion lleol, a sicrhau y gall Porthcawl esblygu fel tref arfordirol fodern.
- Bydd rhan o'r datblygiad newydd yn cael ei ddosbarthu fel tai cymdeithasol, a bydd ystod o wahanol ddeiliadaeth ar waith.
- Bydd yn destun polisi gosod a fydd yn canolbwyntio ar bobl leol yn gyntaf yn unol â'n dymuniad i greu cymuned newydd ym Mhorthcawl sy'n gwasanaethu buddiannau lleol orau.
- Ydyn – rydym bellach yn rhagweld tua 980 o gartrefi newydd wedi'u gwasgaru ar hyd cyfan yr ardal adfywio, pob un wedi'i adeiladu a'i gynllunio i gyd-fynd â'r dirwedd amgylchynol a mwy o fannau gwyrdd.
- Rydym wedi cynyddu ac ehangu ardaloedd mannau gwyrdd a hygyrchedd i'r cyhoedd 45% ers datblygu'r Strategaeth Creu Lleoedd
- Rydym wedi lleihau uchder adeiladau 20% ar y safle - o 5-6 llawr i 3-4 llawr.
- Mae'r newidiadau yn golygu y bydd mwy o dai na fflatiau erbyn hyn.
- Bydd pob rhan o'r ardal adfywio wedi'i chysylltu â mwy na 1,800 metr o lwybrau newydd sy'n addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
- Mae'r patrwm arfaethedig ar gyfer elfen dai Bae Sandy wedi’i ysbrydoli gan strydoedd presennol Porthcawl sydd fel arfer wedi'u hadeiladu yn berpendicwlar i ymyl yr arfordir (megis Picton Avenue, Esplanade Avenue a Mary Street).
- Mae'r cynllun hwn yn caniatáu golygfeydd hir wedi'u fframio gan rythm o dai tref sy'n ffafrio cymdogaethau agored, cerddadwy ac sy’n annog rhyngweithio cymdeithasol.
- Mae'r mwyafrif o'r adeiladau hefyd yn cynnwys ffenestri bae a balconïau i gynnig golygfeydd o'r môr, twyni (i'r de) neu'r bryniau (i'r gogledd).
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn rhan lawn o Gynllun Datblygu Lleol y cyngor, sy'n penderfynu sut y gellir defnyddio tir a beth y gellir ei adeiladu yn y fwrdeistref sirol.
- Maent wedi cadarnhau bod Canolfan Feddygol bresennol Porthcawl wedi'i hadeiladu gyda gwybodaeth flaenorol am y prosiect adfywio yn y dyfodol, a'i fod wedi cael ei ystyried yn eu darpariaeth leol o wasanaethau.
- Ar hyn o bryd, nid yw'r practis wedi nodi unrhyw bryderon ynghylch cynnydd yn nifer y cleifion.
- Mae'r cyngor yn cysylltu â'r bwrdd iechyd ac yn eu diweddaru'n llawn am y cynnydd fel y gallant gynllunio ymlaen llaw.
- Bydd system ddraenio budr annibynnol newydd sbon yn cael ei chreu na fydd yn cysylltu ag unrhyw garthffos bresennol o fewn y rhwydwaith lleol.
- Bydd un pwynt gollwng diogel i'r rhwydwaith carthffosiaeth ehangach yn cael ei gynllunio ar y cyd â Dŵr Cymru.
- Ni fydd unrhyw ddŵr glaw yn cysylltu â'r system ddraenio carthffosiaeth.
- Bydd unrhyw ddŵr wyneb presennol yn cael ei ddraenio gan system gynaliadwy newydd a fydd, o'i gymharu â'r trefniadau presennol, yn lleihau'r baich cyffredinol ar y rhwydwaith draenio carthffosiaeth lleol.
- Cyn darparu'r grant blynyddol i gynghorau y maent yn dibynnu arno i ariannu gwasanaethau allweddol, mae Llywodraeth Cymru yn didynnu'r swm o arian y disgwylir i bob ardal ei godi drwy dreth gyngor.
- O ganlyniad, nid yw adeiladu tai ychwanegol yn cynhyrchu refeniw ychwanegol trwy dreth gyngor.
- Mae ymchwil helaeth gan gynnwys arolygon traffig ac astudiaethau parcio wedi'i chynnal dros gyfnod o bedair blynedd.
- Mae hon wedi cadarnhau bod angen hyd at 600 o leoedd ar Borthcawl i ymdopi â'r galw brig cyfartalog drwy gydol y flwyddyn, a thua 1,000 o leoedd ar gyfer pan fydd digwyddiadau penodol fel gwyliau banc yr haf, rasys 10K neu Noson Tân Gwyllt yn denu lefelau uwch o ymwelwyr i'r dref.
- Yn ogystal â pharcio ar gyfer y tai newydd, bydd tua 400 o leoedd ar gael rhwng Hillsboro Place a Salt Lake, tra bydd gan ardal Traeth Coney oddeutu 200 o leoedd. Caiff pob un o’r rhain eu ffurfweddu i gynnig yr effeithlonrwydd mwyaf.
- Er mwyn darparu ar gyfer cyfnodau pan fo lefelau ymwelwyr yn uwch, mae'r cyngor yn y broses o adnabod lleoliad i faes parcio gorlif newydd. Mae hyn yn rhan o strategaeth parcio cyhoeddus ar wahân ar gyfer Porthcawl, a bydd mwy o fanylion yn cael eu rhyddhau ar ôl i’r broses gael ei chwblhau.
- Mae gorsaf Metrolink eisoes wedi'i gosod ochr yn ochr â Salt Lake i ddarparu ar gyfer ymwelwyr sy'n dewis ymweld â'r dref ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Er y bu maes parcio aml-lawr newydd dan ystyriaeth am gyfnod byr ym maes parcio Hillsboro Place, mae parcio wyneb ychwanegol wedi dod ar gael ers hynny ar safle Traeth Coney i'r gogledd o'r ffordd fynediad arfaethedig.
- O ganlyniad, nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i adeiladu maes parcio aml-lawr, a bydd y maes parcio awyr agored yn Hillsboro Place yn cael ei ail-ffurfweddu a'i adnewyddu i'w wneud yn fwy effeithlon a chyfleus i'w ddefnyddio. Bydd mannau cyhoeddus hefyd yn cael eu darparu o fewn ardal ddatblygu Salt Lake.
- Ynghyd â'r parcio ychwanegol ar safle Traeth Coney, bydd hyn yn cynnig yr un faint o barcio ag y byddai maes parcio aml-lawr 4-5 lefel wedi'i wneud.
- Bydd traffig yn parhau i gael ei fonitro'n agos rhag ofn bod angen cyfleuster o'r fath yn y dyfodol.
- Mae gwaith ecoleg helaeth wedi'i wneud sydd wedi cynnwys arolygon o gynefinoedd, rhywogaethau gwarchodedig, ymlusgiaid, madfallod cribog mawr, adar bridio, adar gaeafu, anifeiliaid di-asgwrn-cefn a mwy.
- Mae gwaith penodol wedi digwydd ynglŷn ag ystlumod (e.e. arolygon o adeiladau a choed, arolygon gweithgarwch, arolygon o bell ac ati).
- Mae canlyniadau'r gwaith hwn wedi bwydo uwchgynllun cyffredinol y safle adfywio.
- Byddant yn ei gwneud yn bosib cyflwyno ystod o fesurau lliniaru addas i sicrhau y gellir diogelu bioamrywiaeth y safle, ac y gellir gwarchod a datblygu cynefinoedd.
- Bydd manylion am fesurau unigol yn cael eu hamlygu fel rhan o'r broses gynllunio.
- Na – penderfyniad perchnogion Parc Adloniant Traeth Coney oedd cau'r ffair i lawr a gwerthu'r safle.
- Prynodd Llywodraeth Cymru y safle yn 2023 i ddiogelu'r tir i'w ddefnyddio yng nghynlluniau adfywio’r glannau'r cyngor.
- Mae Parc Adloniant Traeth Coney wedi’i gysylltu â Phorthcawl ers dros ganrif ac mae'n rhan bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol y dref.
- Mae'r uwchgynllun adfywio yn cydnabod hyn ac mae’n cynnwys cynigion ar gyfer creu teithiau ffair newydd sbon ar safle yn Salt Lake ger siop fwyd Aldi.
- Ydy – maen nhw i gyd yn ffurfio darnau pwysig o'r cynlluniau adfywio ehangach.
- Mae pob datblygiad yn cydblethu â’r datblygiad nesaf.
- Efallai bod hyn yn cael ei ddangos orau gan leoliad y Metrolink presennol, sydd bellach yn gwneud llawer mwy o synnwyr pan edrychir trwy gyd-destun argraffiadau'r artist sy'n dangos ei agosrwydd at ddatblygiadau newydd eraill o fewn y safle gorffenedig.
- Ailddatblygu Pafiliwn y Grand (£20m)
- Amddiffynfeydd môr Morglawdd y Gorllewin, Promenâd y Dwyrain a Bae Sandy (£6m)
- Trawsnewidiad Cosy Corner (£3m)
- Amddiffynfeydd môr Traeth y Dref (£3m)
- Metrolink (£3m)
- Marina Porthcawl (£3m)
- Adeilad Jennings (£2.5m)
- Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay (£1.5m)
- Cyllid Treftadaeth Treflunio (£1m)
- Ydy – bydd yr ysgol yn ennill tir ychwanegol sydd wedi'i neilltuo at ddefnydd addysgol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw anghenion ehangu neu ddatblygu yn y dyfodol a allai fod gan yr ysgol.
- Nid oes unrhyw newidiadau i Ysgol Gynradd Newton ei hun, a bydd yr ysgol yn aros yn ei le / yn parhau fel arfer.
- Mae'n rhaid gwneud llawer o waith i gwblhau a pharatoi'r safle adfywio, dewis contractwyr addas, dod o hyd i gyllid a phartneriaid datblygu, a bodloni gofynion y broses gynllunio cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.
- Bydd y cam nesaf yn cynnwys cynnal ymgynghoriad y cais cynllunio ar y cynigion uwchgynllun drafft terfynol, ac mae hyn wedi'i drefnu i ddigwydd rhwng Tachwedd 2025 a Ionawr 2026.
- Fel rhan o'r broses hon, bydd yr uwchgynllun drafft terfynol ar gael yn www.porthcawlwaterfront.co.uk, a bydd digwyddiad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Hi Tide ym Mhorthcawl ar 25 Tachwedd 2025 i roi cyfle i bobl weld yr uwchgynllun yn fanylach a gofyn cwestiynau.
- Gan ei fod yn brosiect hirdymor, byddwn yn cynghori pobl am ddyddiadau allweddol yn y broses hon, felly ewch ati i ddilyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae uwchgynllun drafft terfynol Adfywio Glannau Porthcawl ar gael i'w weld ar-lein yn www.porthcawlwaterfront.co.uk gyda set o Gwestiynau Cyffredin, a chynhelir digwyddiad cyhoeddus yn Hi Tide ym Mhorthcawl ar 25 Tachwedd 2025 er mwyn rhoi cyfle i bobl weld yr uwchgynllun yn fanylach a gofyn cwestiynau – rhagor o fanylion i ddilyn cyn bo hir.