Casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gŵyl y Banc: Ni fydd casgliadau ar Dydd Llun 26 Mai 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 31 Mai 2025.
Saltlake Seafood Co. yn creu argraff fawr ar ddiwylliant bwyd Porthcawl!
Dydd Gwener 22 Medi 2023
Agorodd Saltlake Seafood Co. y mis diwethaf, ac mae’n un o blith pump o fusnesau annibynnol, lleol a fydd yn gweithredu mewn lleoliad gwych yn Cosy Corner, Porthcawl – sef ardal sydd newydd ei datblygu.
Mae’r cam cyntaf yn natblygiad Cosy Corner, sy’n werth £3.8m, newydd gael ei gwblhau. Bu modd bwrw ymlaen â’r datblygiad yn sgil arian a gafwyd gan y cyngor a chan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys £1m o arian yr UE gan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru.
Mae’r bwyty – a leolir yn yr adeilad newydd cerrig a gwydr, lle ceir golygfeydd dros y sianel – yn ehangu’r dewis o fwytai da a geir yn yr ardal, a hefyd mae’n cynnig gwaith i’r gymuned leol. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr yn byw yn yr ardal a gallant gerdded neu feicio i’w gwaith – rhywbeth sy’n fanteisiol i’r amgylchedd ac i lesiant y staff.

Pan glywais fy mod wedi cael swydd goruchwylydd yn Saltlake Seafood Co., roeddwn i wrth fy modd! Mae’n lle mor braf i weithio ynddo, ac mae’r lleoliad yn wych! Mae yna ddigon o bethau’n digwydd yn yr ardal ac rydw i’n cael cyfle i gyfarfod â chynifer o wynebau newydd bob dydd. Mae gen i daith gerdded fer yn ôl a blaen i’r gwaith – ac mae hynny’n gweddu’n berffaith imi. Rydw i’n edrych ymlaen at groesawu pawb!
Ym marn Kate Booth, y perchennog, mae’n bosibl y bydd y bwyty yn denu mwy o bobl a diddordeb i ardal yr harbwr. Mae Kate yn tynnu sylw at rai o nodweddion y busnes:
Mae’r lleoliad wedi’i gynllunio er mwyn cael golygfeydd o’r dwyrain i’r gorllewin, lle gall ein cwsmeriaid fwynhau gwylio’r haul yn codi neu’n machlud. Mae ein bwydlen yn cynnwys dewis a phrisiau eang, yn cynnwys bwyd môr ffres a bagelau tecawê. Rydym yn gweini brecwast o 9am, neu o hanner dydd gallwch gael platiau mawr o bysgod a phrydau arbennig wythnosol. Hefyd, mae gennym ddiodydd poeth ac oer, sudd oren ffres a diodydd alcoholig.Gobeithio y bydd pob un o’n cwsmeriaid yn mwynhau cysyniad Saltlake Seafood Co. ac yn teimlo ei fod yn ategu busnesau a chynigion eraill yng nghyffiniau Marina Porthcawl.
Mae Saltlake Seafood Co. yn cynnig gwaith i’r ardal, busnes annibynnol sy’n benodol i’r ardal ac, wrth gwrs, bwyd o’r radd flaenaf – heb anghofio’r addewid y bydd ymwelwyr a thrigolion yr ardal fel ei gilydd yn cael amser gwych! Mae Whocult Doughnuts, un o gymdogion y bwyty, yn fusnes arall sy’n gweithredu yn un o’r pum uned fasnachol yn Cosy Corner. Ar hyn o bryd mae Harbwr Deli, y trydydd tenant, yn paratoi’r safle ar gyfer ei agor. Nid yw’r trefniadau ar gyfer y ddwy uned a erys wedi’u cadarnhau eto. Byddwn yn parhau i gynnig cymorth priodol i fusnesau Cosy Corner, yn cynnwys helpu i recriwtio a hyfforddi staff gyda chymorth tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Oherwydd y cyfleoedd a’r potensial sy’n perthyn i ddatblygiad Cosy Corner, rydym ynghanol cyfnod cyffrous yn hanes Porthcawl.
