O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Siarter newydd yn addo agwedd newydd ar gyfer perthnasau sydd wedi cael profedigaeth a rhai sydd wedi goroesi trasiedïau cyhoeddus
Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025

Mae sefydliadau ar hyd a lled Cymru wedi arwyddo siarter sy’n cytuno i ymateb i drasiedïau cyhoeddus mewn ffordd agored a chyda thryloywder ac atebolrwydd.
Mae’r Siarter Teuluoedd sydd wedi cael Profedigaeth Oherwydd Trasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn sut mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu gyda theuluoedd sy’n galaru, ac yn rhoi gwersi a ddysgwyd ar waith o drychineb Hillsborough a’r hyn a ddilynodd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan drasiedi gyhoeddus yn cael yr un profiad.
Mae sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a lluoedd rhanbarthol yr heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i gyd wedi arwyddo’r siarter, gan gadarnhau eu hymrwymiad i gefnogi teuluoedd a’r gymuned sydd wedi cael profedigaeth yn sgil digwyddiad mawr, ac i ddarparu gwasanaethau sy’n cwrdd â’u hanghenion cyn, yn ystod ac wedi digwyddiad.
Cynhelir digwyddiad lansio ar gyfer y siarter ym Merthyr Tudful ar Ddydd Mawrth 18 Mawrth. Bydd yn cael ei fynychu gan yr Esgob James Jones KBE, a ddatblygodd y siarter fel rhan o’i adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd o drychineb Hillsborough. Yn ymuno ag ef fydd nifer o berthnasau sydd wedi cael profedigaeth a goroeswyr trasiedïau cyhoeddus, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Manchester Arena ac Aber-fan.
Dywedodd yr Esgob Jones: “Heddiw, mae cenedl y Cymry yn arwain y ffordd gyda thros 50 o gyrff cyhoeddus yn arwyddo’r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid, ac mae yna ymrwymiad o’r newydd tuag at wasanaeth cyhoeddus a pharchu dynoliaeth y rhai a gafodd eu galw i wasanaethu.
“Mae’r siarter yn cynrychioli addewid na fydd unrhyw un, wedi unrhyw drasiedi yn y dyfodol, yn cael eu gadael i geisio ymdopi gyda’u galar ac i oroesi ar eu pen eu hunain - na fydd unrhyw un byth eto yn dioddef ‘natur nawddoglyd grym nad yw’n atebol’.
“Mae hyn yn foment hollbwysig ym mywyd y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter, ac ymrwymo i barchu dynoliaeth pob dinesydd, a ddylai fod yn ganolog i’n holl wasanaeth cyhoeddus.”
“Mae’n bleser gweld bod y siarter bwysig iawn yma wedi derbyn cefnogaeth y Cyngor llawn ac mae’n ailddatgan ein hymrwymiad hirsefydlog i gefnogi teuluoedd sy’n cael profedigaeth gyda’r gofal, y cydymdeimlad a’r parch maent yn ei haeddu. “Ymgymerir ag agwedd cyngor cyfan er mwyn sicrhau bod gwerthoedd y siarter hwn yn cael eu rhoi ar waith ar hyd a lled ein cyngor bwrdeistref, a bydd pob un o’r 51 o gynghorwyr yn gweithio’n agos gyda swyddogion a phartneriaid ehangach er mwyn cynnig cefnogaeth pryd bynnag fydd ei angen.”
“Mae cefnogaeth ar gyfer rhai sydd wedi cael profedigaeth eisoes yn ffurfio rhan allweddol o’n prosesau cynllunio ar gyfer argyfwng, ond er ein bod yn gobeithio’n fawr na fydd y trasiedïau hyn yn digwydd yn ein hardal, mae’n briodol ein bod yn cymryd agwedd ragweithiol, aml-asiantaeth ac yn paratoi ar gyfer pob digwyddiad posib.”
Dywedodd Prif Swyddog Tân Gogledd Cymru, Dawn Docx, cadeirydd y Grŵp Gwasanaethau Argyfwng ar y Cyd: “Rydym yn cydnabod bod cydweithredu wrth gefnogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan drasiedi gyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau lles a gwytnwch ein cymunedau.
“Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a’n hadnoddau ar y cyd er mwyn darparu cefnogaeth ystyrlon i rai sydd mewn angen yn ystod cyfnod o argyfwng a thu hwnt.”
Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis: “Drwy arwyddo’r siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu’r gwersi o drychineb Hillsborough a thrasiedïau eraill er mwyn sicrhau nad ydym ni byth yn colli golwg ar safbwynt teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth a sicrhau eu bod yn cael eu trin gyda gofal, ac mewn ffordd gydymdeimladol, nid yn unig ar adeg yr argyfwng a’r drasiedi, ond yn yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd wedi hynny.
“Tra bod heddiw yn torri tir newydd, yr her wirioneddol yw gwreiddio’r siarter i mewn i’n hyfforddiant a’n diwylliant a sicrhau ei fod yn dod yn rhan hanfodol o’n hymateb i unrhyw drasiedi gyhoeddus. Mae ymwneud y rhai sydd wedi cael profedigaeth a goroeswyr trasiedi gyhoeddus wedi bod yn rym sydd wedi gyrru’r cam hollbwysig hwn ymlaen heddiw.”