Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Siop ail ddefnyddio Maesteg ar agor unwaith eto
Dydd Mercher 30 Awst 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda’i bartneriaid Kier ac elusen seiliedig ar y gymuned, Groundwork, i adfer siop ail ddefnyddio The Sliding yng nghanolfan Ailgylchu Maesteg, Heol Tŷ Gwyn.
Ers agor yn 2020, mae’r siop ail ddefnyddio wedi ailgylchu cannoedd o eitemau, yn cynnwys unrhyw beth o feiciau i sgwteri i lyfrau a DVDs, seinyddion, gemau, a chrochenwaith.
Mae Groundwork, sy’n canolbwyntio ar adeiladu cymunedau cynaliadwy, wedi cymryd yr awenau i redeg y siop ail ddefnyddio, sydd ar agor ddwywaith yr wythnos ar hyn o bryd, ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9am a 3pm.
Dywedodd Byron James, Rheolwr Manwerthu ac Ailddefnyddio Groundwork Caerffili: Rydym yn gyffrous iawn yn partneru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier i ail agor y siop The Siding yng Nghanolfan Ailgylchu Maesteg. Rydym yn frwdfrydig ynghylch atal gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gan gydnabod bod llawer o ddodrefn tŷ ac eitemau trydan yn gallu cael eu hail ddefnyddio at sawl pwrpas newydd.
“Rydym wedi casglu 23 mlynedd o brofiad yn darparu ein menter gymdeithasol bresennol, gan ganolbwyntio ar fentrau ail ddefnyddio ac ailgylchu, mewn perthynas ag awdurdodau lleol. Byddwn yn parhau i fynd i’r afael â thlodi drwy ddarparu’r hawl i ddodrefn ac eitemau trydan fforddiadwy, wrth gynorthwyo dilyniant cymunedau hefyd drwy ddarparu hwb gwirfoddoli i hwyluso hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i hybu cyflogadwyedd a sgiliau.”
Rydym wrth ein bodd bod y siop ail ddefnyddio wedi ail agor ar gyfer busnes ym Maesteg. Mae'n enghraifft wych o gynaladwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol - nid yn unig ein bod yn gallu rhoi cartref newydd i gannoedd o eitemau bob mis yn hytrach na thrip untro i safle tir lenwi, gallwn gynnig yr hawl i gasgliad o fargeinion o ansawdd ar gyfer y cartref a’r ardd i bobl leol, sydd o gymorth i liniaru ychydig ar gyllidebau cartref yn yr argyfwng costau byw presennol. Mae’r siop untro’n cynnig y cyfle i roi neu brynu a chynorthwyo’r economi ail ddefnyddio, sydd o fudd i elusen leol ac yn ffordd hawdd i ddeiliaid tai leihau eu hallyriadau carbon a helpu’r amgylchedd. Rydym yn falch bod gan ein bwrdeistref sirol y gyfradd uchaf ond un o ran ailgylchu yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i ddatblygu mentrau fel hyn i symud ymlaen gyda’n hymrwymiad i gyflawni sero net erbyn 2030.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch ailgylchu a gwastraff ar ein gwefan, ynghyd â gwybodaeth am ein Strategaeth Sero Net Carbon Pen-y-bont ar Ogwr 2030.