Sylw i lwyddiant ysgolion mewn seremoni wobrwyo

Dydd Mercher 19 Mawrth 2025

Disgyblion o Ysgol Gynradd Coety ac Ysgol Bro Ogwr yn y seremoni wobrwyo.
Disgyblion o Ysgol Gynradd Coety ac Ysgol Bro Ogwr yn y seremoni wobrwyo.
Disgyblion o Ysgol Gynradd Coety ac Ysgol Bro Ogwr yn y seremoni wobrwyo.

Tynnwyd sylw at ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â lleoliadau eraill yr awdurdodau lleol yn ystod seremoni wobrwyo Siarter Iaith ddiweddar a gynhaliodd Consortiwm Canolbarth y De, ar gyfer dathlu eu llwyddiant yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Ngwesty Vale Resort ar 11 Mawrth 2025, lle derbyniodd 27 ysgol o’r fwrdeistref sirol wobrau Siarter Iaith am eu hymdrechion i ddilyn y Siarter Iaith neu’r Siarter Iaith Cymraeg Campus - fframwaith Llywodraeth Cymru sydd â’r bwriad o ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.  Mae’r Siarter Iaith wedi ei datblygu i arwain ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae’r fframwaith Siarter Iaith Cymraeg Campus â’r bwriad o lywio trywydd ysgolion cyfrwng Saesneg.

Lansiwyd y fenter Siarter Iaith yn 2017 fel rhan o nod Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Ers hynny, mae nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg ledled y rhanbarth wedi croesawu’r her o gyflawni’r gwobrau efydd, arian, aur, yn ogystal â gwobrau ôl-aur (ennill aur am yr ail dro) am eu gwaith sy’n gysylltiedig â’r rhaglen. 

Mae ysgolion wedi hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru drwy amrywiaeth o brosiectau arloesol sy’n berthnasol ac yn arwyddocaol i’w hysgol nhw.  Mae’r cynllun yn annog disgyblion a staff i ddeall bod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw a bywiog, ac i’w defnyddio yn y dosbarth a thu allan i’r dosbarth. 

Llwyddodd ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arbennig iawn yn y seremoni, gyda chyfanswm o 33 gwobr yn cael ei chyflwyno iddyn nhw, yn cynnwys 20 efydd, naw arian, yn ogystal â thair gwobr aur yn cael eu dyfarnu i Ysgol Maesteg, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, ac Ysgol Gyfun Cynffig, ac Ysgol Gynradd Afon y Felin yn cipio gwobr ôl-aur.

“Roedd plant y Criw Cymraeg wrth eu boddau yn derbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith Cymraeg Campus am yr ail waith ddoe. “Ni oedd yr ysgol gyntaf i dderbyn gwobr aur am yr ail dro, ac mae hyn yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig i ni. Mae’r holl staff a phlant yn Ysgol Gynradd Afon y Felin yn falch o fod yn rhan o nod Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o Gymraeg sy’n cael ei siarad pob dydd. “Mae Cymraeg yn Afon y Felin yn hwyl, gyda llawer o ganeuon a gemau a Chriw Cymraeg brwdfrydig yn ein harwain. Maen nhw’n annog agwedd ‘rhowch gynnig arni’ gan ddefnyddio pa bynnag lefel o Gymraeg sydd gennych.”
”Pleser oedd croesawu cynifer o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr i seremoni wobrwyo Siarter Iaith / Siarter Iaith Cymraeg Campus Consortiwm Canolbarth y De. Gwnaethom ddathlu eu hymroddiad a’u gwaith caled yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae’r Gymraeg yn wirioneddol llewyrchu yn ysgolion ledled yr awdurdod lleol, ac rydym yn edrych ymlaen at wobrwyo hyd yn oed yn fwy o ysgolion yn y dyfodol!”
“Mae hyn yn newyddion gwych! Am ffordd hyfryd o ddathlu ymdrechion a chyflawniadau staff a disgyblion yn hyrwyddo Cymru, ynghyd â’i hiaith a diwylliant cyfoethog! “Mae ysgolion ledled y fwrdeistref sirol a thu hwnt yn datblygu balchder ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; mae disgyblion yn cael eu hannog i fod yn falch o’u hunaniaeth Gymreig. Tybed a lwyddwn i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Rwy’n siŵr y gwnawn! Da iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r nod hwn hyd yn hyn!”

Chwilio A i Y

Back to top