Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Torri Gwallt yn Codi Gwên yn Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
Dydd Iau 19 Hydref 2023

I helpu yn ystod y cyfnod hwn o heriau ariannol, cynigwyd cymorth i rieni Ysgol Gynradd Cwm Ogwr drwy garedigrwydd Julie Grant a Lisa Morgan, trinwyr gwallt lleol. Rhoddodd y ddwy eu hamser a’u sgiliau am ddim, gan dorri gwallt plant yn barod i ddychwelyd i'r ysgol.
Dywedodd Lisa: “Roedd cael y cyfle i gefnogi'r ysgol a llesiant y plant yn fraint llwyr. Roedd gweld y plant yn gwenu'n hapus ar ôl cael torri a steilio eu gwallt yn codi calon, yn anrhydedd ac yn amhrisiadwy.”
Roedd y rhieni’n ddiolchgar iawn o haelioni’r trinwyr gwallt. Dywedodd un fam, Amanda: “Cafodd fy meibion, sy’n efeilliaid, dorri eu gwallt. Am gyfle anhygoel - mae wirioneddol wedi arbed llawer o arian i mi a fy ngŵr yn ystod cyfnod pan fo pethau mor dynn yn ariannol.”
Nid yn unig yn yr ysgol y teimlir gwres caredigrwydd y ddwy hyn, ond ledled yr ardal, gan fod y ddwy yn perthyn i gôr elusennol ‘Maternal Harmony’. Sefydlwyd y côr yn 2013 gan Gail James a Francesca Fearn, a oedd yn arfer gweithio yn y Gwasanaeth Ymateb a Rheoli Amenedigol (PRAMS) yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn wreiddiol, sefydlwyd y côr i gefnogi merched a oedd yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl cynenedigol ac ôl-enedigol, ond mae’r côr wedi esblygu dros y blynyddoedd i godi arian ar gyfer nifer o elusennau lleol.
Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Joanne Colsey: “Fel ysgol, rydym mor ymwybodol o'r effaith mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar ein disgyblion a’u teuluoedd. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o gefnogi teuluoedd yn ystod adegau penodol o’r flwyddyn pan fydd pwysau ariannol ychwanegol, fel dechrau blwyddyn ysgol newydd. Eleni, rydym wedi gwneud hyn drwy siop cyfnewid gwisg ysgol, yn ogystal â darparu poteli dŵr a bocsys bwyd am ddim wedi'u rhoi gan Tesco.
“Roeddem wrth ein bodd fod merched gwych y Côr Maternal Harmony wedi rhoi o'u hamser i dorri gwallt y disgyblion am ddim cyn iddynt ddychwelyd i'r ysgol, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn! Rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt.”
Rwy’n meddwl bod Ysgol Gynradd Cwm Ogwr wedi pwysleisio’r modd y mae ysgolion yn gwbl ganolog i gymuned, ac yn meddu ar y cyfle i gefnogi ei haelodau'n ddiflino. Mae'r ysgol, gyda chymorth Julie a Lisa o Maternal Harmony, wedi addysgu’r plant am garedigrwydd a chymunedau'n cefnogi ei gilydd - mae’r rhain yn werthoedd na ellir eu haddysgu o lyfr gwaith, ond o'r galon yn unig. Da iawn, bawb.