Treialwch eich busnes am ddim mewn siop dros dro leol

Dydd Llun 06 Gorffennaf 2026

Yn dilyn llwyddiant y farchnad dros dro yng nghanol tref Maesteg y llynedd, mae tîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor wedi lansio menter debyg yng Nghaerau, o'r enw "Gan Gaerau. I Gaerau".

Mae'r lleoliad dros dro, yn hen adeilad yr Undeb Credyd yn 177 Caerau Road, wedi'i gynllunio i gynnig cyfle i fusnesau newydd, pobl greadigol a grwpiau cymunedol lleol yr ardal leol brofi'r farchnad ar gyfer eu mentrau busnes newydd. 

Mae menter y siopau dros dro’n cynnig mynediad tymor byr, heb gost, i adeiladau gwag er mwyn i unigolion a sefydliadau allu profi’r farchnad bosib ar gyfer eu syniadau, arddangos cynnyrch, ac ymgysylltu â chwsmeriaid mewn amgylchedd sydd yn amlwg ond â risg isel.

Mae datganiadau o ddiddordeb bellach ar agor, yn gwahodd gwneuthurwyr, masnachwyr, busnesau bach, a mentrau cymdeithasol i brofi’r farchnad ar gyfer eu syniadau a cynyddu eu hyder i fasnachu. 

I gofrestru eich diddordeb, cwblhewch ffurflen datganiad o ddiddordeb byr ar Wefan y Cyngor.

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl dalentog a chreadigol yng Nghaerau sydd â syniadau gwych ond efallai yn bryderus o ran ymgymryd â chostau siop barhaol. Mae'r gofod dros dro hwn yn rhoi cyfle iddyn nhw brofi eu syniadau, cwrdd â chwsmeriaid a meithrin hyder, y cyfan heb risg ariannol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl leol yn cymryd rhan, boed hynny drwy wneud cais am le neu drwy ddod draw i gefnogi'r busnesau a'r grwpiau sy'n cymryd rhan."

Bydd y siop dros dro yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd yr haf hwn. Mae pob gofod dros dro, boed am ddiwrnod yn unig neu am wythnos gyfan, yn cyflwyno rhywbeth newydd i'r farchnad, ac yn bywiogi canol y dref a helpu'r economi leol.

From Caerau, For Caerau

Chwilio A i Y

Back to top