Tri a enwebwyd yn cyrraedd rownd derfynol gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru - ac maen nhw angen eich pleidlais!

Dydd Gwener 21 Mawrth 2025

Mae’r rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol ‘Gwobrau 2025’, gwobrau a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru, wedi eu cyhoeddi ac mae gan gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dri pherson rhagorol sy’n gobeithio ennill y wobr:

Ffion Cole, Prif Swyddog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig a noddwyd gan Practice Solutions. Cydnabyddir dull Ffion o arwain ar draws yr awdurdod lleol. Mae gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso neu sydd heb lawer o brofiad yn aml yn cael eu lleoli yn ei ‘hacademi gwaith cymdeithasol’ am eu chwe mis cyntaf yn y gwaith. Yma, cânt eu cefnogi a’u meithrin gan dîm arbenigol Ffion. Mae Ffion hefyd yn cynnig mentora ffurfiol a chymorth anffurfiol i reolwyr sydd eisiau dysgu sut i ddatblygu diwylliant a dull o arwain Ffion a’i thîm.

Casey Baker, Gweithiwr Gofal Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Byw â Chymorth, a enwebwyd ar gyfer Gwobr WeCare Wales, a noddwyd gan WeCareWales. Mae gallu Casey i gysylltu gyda phobl ar lefel bersonol yn ei gwneud hi’n weithiwr gofal cymdeithasol eithriadol. Mae’n ddibynadwy, yn sylwgar ac mae wedi creu amgylchedd meithringar lle mae pawb yn teimlo eu bod o bwys a’u bod yn cael eu cefnogi.

Recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol Plant yn Rhyngwladol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ‘Gwobr Datblygu ac Ysbrydoli’r Gweithlu’ - wedi’i noddi gan BASW Cymru - prosiect sy’n canolbwyntio ar recriwtio gweithwyr cymdeithasol rhyngwladol cymwysedig a phrofiadol er mwyn helpu i leihau dibyniaeth y tîm ar weithwyr asiantaeth, cadw staff a gwella profiad y gweithlu. Hyd yma, mae’r prosiect wedi recriwtio 13 o weithwyr cymdeithasol ar draws De Affrica, Zimbabwe ac UDA, sydd wedi dod â sefydlogrwydd i’r timau.

Dewiswyd 11 prosiect a saith unigolyn fel aelodau’r rownd derfynol gan banel o feirniaid ar gyfer gwobrau 2025 ar draws chwe chategori. Cynhelir gwobrau 2025 yng Ngwesty Mercure Cardiff Holland House ar ddydd Iau 1 Mai.

Eleni, bydd enillwyr dau gategori yn cael eu dewis gan bleidlais gyhoeddus. Sef:

Gwobr Arweinyddiaeth YsbrydoledigFfion Cole: Pleidleisiwch yma

Gwobr WeCare Wales - Casey Baker: Pleidleisiwch yma

Mae pleidleisio ar agor tan 5pm ar ddydd Llun 31 Mawrth 2025! Cefnogwch ein staff a thimau gwasanaethau cymdeithasol, ac ewch ati i bleidleisio heddiw!

“Rydym yn eithriadol o falch o fod â thri enwebiad o’n hawdurdod lleol ar gyfer y gwobrau cenedlaethol yma. Mae hyn yn wirioneddol dystio i dalent, ymroddiad a gweithredoedd ysbrydoledig ein timau gofal cymdeithasol ac unigolion sydd, drwy eu hymdrechion anhygoel, yn ceisio gwella gwasanaethau a phrofiadau i’r unigolion yn eu gofal. “Ar ran y cyngor, hoffwn ddymuno pob lwc iddynt yn y rowndiau terfynol gan obeithio’n fawr y byddant yn cael y gydnabyddiaeth maent yn eu haeddu’n llwyr!”

Gallwch ddarllen mwy am y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar wefan y gwobrau: https://gofalcymdeithasol.cymru/y-gwobrau/gwobrau-2025

Chwilio A i Y

Back to top