Tri aelod o'r un teulu yn cael eu dwyn i gyfiawnder yn dilyn ymchwiliad i fasnachwyr twyllodrus

Dydd Mawrth 08 Ebrill 2025

  • Roedd y masnachwyr twyllodrus yn gwneud ffrindiau gyda’u dioddefwyr oedrannus ac agored i niwed, gan feithrin perthnasoedd ffuantus â nhw a’u dychryn.
  • Fe wnaethon nhw roi tabledi cysgu i un dioddefwr a'i ddynwared mewn ymgais i ddwyn £50K o'i bensiwn
  • Bu farw'r dioddefwr cyn gweld y gang yn cael ei ddwyn i gyfiawnder

Mae tri masnachwr twyllodrus o'r un teulu wedi cael eu dedfrydu yn dilyn ymchwiliad safonau masnach gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i'w gweithgareddau anghyfreithlon.

Mewn erlyniad a ddygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lansiwyd yr ymchwiliad ar ôl derbyn cwynion gan breswylwyr am waith gwael ac arferion masnachu amheus gan gwmni o'r enw Fix A Drive Limited.

Fe wnaeth swyddogion ddarganfod bod Michael Cassidy, ei dad William Cassidy a'i chwaer Charlotte Cassidy wedi cytuno ar gontractau ar gyfer gwaith gwella dreif a chartref mewn dau gyfeiriad ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd Michael Cassidy wedi’i restru’n gyfarwyddwr y cwmni ac fe oedd llofnodwr wedi’i enwi ar gyfer y cyfrif banc. Fodd bynnag, roedd hyn mewn enw yn unig, a chanfuwyd ei fod wedi chwarae rhan lai yn y twyll. Roedd ei dad William Cassidy, yr oedden nhw’n cyfeirio ato fel 'y Boss', yn chwarae rhan flaenllaw wrth lwyddo i gael a gwneud gwaith ar gartrefi'r ddau achwynydd.

Clywodd y llys fod taliadau mawr ymlaen llaw yn cael eu cymryd am y gwaith a phan fyddai'n cael ei herio gan y dioddefwyr, byddai William Cassidy yn gweithredu mewn ffordd ymosodol ac yn dychryn y dioddefwyr i dalu. Roedd unrhyw waith a wnaed o safon wael ac ar ôl asesiad gan syrfëwr annibynnol, canfuwyd nad oedd ganddo fawr ddim gwerth. 

Roedd Ms Cassidy hefyd yn defnyddio cardiau credyd yn dwyllodrus i dalu am ddeunyddiau ar gyfer y contractau hyn ac ar ôl sylweddoli bod eu cardiau wedi cael eu defnyddio yn y modd hwn, llwyddodd y partïon diniwed i wneud hawliad yn erbyn eu cwmnïau cardiau credyd i gael yr arian yn ôl. Roedd hyn yn golygu bod y cwmnïau lleol y prynwyd y deunyddiau ganddynt ar eu colled o filoedd o bunnoedd. 

Roedd aelodau'r teulu masnachu twyllodrus yn gweithio  gyda'i gilydd i ennill cymaint o arian ag y gallent gan eu dioddefwyr gan ddefnyddio tactegau fel dychryn a meithrin perthnasau ffuantus yn ogystal â manteisio ar wendidau. 

Cafodd William a Michael Cassidy eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 6 Mawrth 2025, a chafodd Charlotte Cassidy ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 2 Ebrill 2025. Cawson nhw eu dedfrydu fel a ganlyn:

Roedd William Cassidy wedi pledio'n euog i'r troseddau yn ei erbyn mewn gwrandawiad llys cynharach. Roedd dau o'r rhain o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 (gwaith o ansawdd gwael a'i natur fygythiol ac ymosodol) a'r llall o dan y Ddeddf Twyll (mynnu arian gan ddioddefwyr er ei fod wedi dweud wrthon nhw na fyddai angen iddyn nhw dalu unrhyw beth nes bod y gwaith wedi'i orffen). Cafodd William Cassidy ei ddedfrydu i 12 mis o garchar.

Ar ôl pledio'n euog hefyd i un drosedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 ynglŷn â  gwaith o ansawdd gwael, ac un drosedd ynglŷn â gwyngalchu arian, cafodd Michael Cassidy ddedfryd o 21 wythnos o garchar wedi'i gohirio am 21 mis yn ogystal â 200 awr o wasanaeth cymunedol.

Yn dilyn ple euog, cafodd Charlotte Cassidy ddedfryd o 18 mis, wedi'i gohirio am 24 mis, 10 awr o waith di-dâl, rhaglen adsefydlu 20 diwrnod ac i dag trydan gael ei osod am 4 mis yn ogystal â chyrffyw 8pm - 6am.

"Unwaith eto, mae'r achos hwn yn dangos pwysigrwydd dewis masnachwr ag enw da wrth ystyried unrhyw waith ar eich eiddo. "Mae'r preswylwyr a'u teuluoedd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn o ganlyniad i ddod i gyswllt â'r teulu Cassidy. Mae pob digwyddiad masnachu twyllodrus neu droseddau ar garreg y drws yn achosi gofid, ond mae'r ymddygiadau ffiaidd a welir yn yr achos hwn ar lefel arall, ac yn cynnwys meithrin perthnasau ffuantus â phreswylydd agored i niwed yn ogystal ag ymgais i ddwyn swm mawr o arian o'i bensiwn trwy’i ddynwared. "Dylai'r canlyniad yn yr achos hwn fod yn rhybudd i unrhyw fasnachwyr twyllodrus eraill sy'n ystyried gwneud gwaith ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd ein Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn ymchwilio i gwynion o'r fath bob amser a fyddwn ni ddim yn oedi cyn cymryd camau priodol."

Mae cymdogion, ffrindiau ac aelodau teulu’n cael eu hannog i roi gwybod am ddigwyddiadau masnachu twyllodrus a throseddau ar garreg y drws i'r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir cyn gynted â phosibl drwy ffonio 0300 123 6696 neu fynd i wefan y GRhR a llenwi ffurflen gyswllt.

Gallwch roi gwybod am unrhyw weithgaredd amheus i Crimestoppers ar 0800 555 111.

Chwilio A i Y

Back to top