Trosglwyddo Ased Cymunedol wedi'i gymeradwyo ar gyfer pafiliwn chwaraeon newydd ym Mlaengarw

Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026


Mae cynlluniau i ddisodli'r pafiliwn chwaraeon yng Nghaeau Chwarae Parc Darren ym Mlaengarw â chyfleuster chwaraeon cymunedol modern wedi symud gam yn nes ar ôl cymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y prosiect, a gaiff ei gyflwyno drwy gytundeb Trosglwyddo Ased Cymunedol (TAC) gyda Chlwb Criced Blaengarw, yn gweld y pafiliwn presennol yn cael ei ddymchwel a'i ddisodli ag adeilad newydd, ynghyd â gwelliannau i’r tirlunio a mynediad.

Bydd y cyfleuster newydd yn darparu cyfleoedd gwell i bobl leol gymryd rhan mewn chwaraeon, wrth gefnogi twf parhaus Clwb Criced Blaengarw, gan gynnwys ei dimau iau a'i weithgareddau gwirfoddoli cymunedol.

Bydd y prosiect gwerth £347,400 yn cael ei gefnogi gan £150,000 o Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor, £150,000 o raglen gyllid Balchder Bro Llywodraeth y DU a chyfraniad pellach o £47,000 gan Glwb Criced Blaengarw drwy fenthyciad cymunedol.

Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi'i sicrhau ar gyfer y datblygiad.

Mae'r Cynghorydd Eugene Caparros a'r Cynghorydd Gary Haines, sy'n rhannu rôl yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, ill dau wedi croesawu'r cam.

"Mae hyn yn newyddion gwych i Flaengarw a bydd yn helpu i ddiogelu cyfleuster chwaraeon cymunedol pwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. "Bydd y pafiliwn newydd yn darparu lle modern, croesawgar i bobl leol fwynhau chwaraeon, gwirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. "Mae hefyd yn enghraifft wych o glwb chwaraeon lleol yn manteisio i'r eithaf ar wahanol gyfleoedd ariannu i gyflawni gwelliannau a fydd o fudd i'r gymuned ehangach."
"Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yn chwarae rhan bwysig wrth ddod â chymunedau ynghyd, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu Clwb Criced Blaengarw i barhau â'i waith gwerthfawr. "Bydd y cyfleusterau gwell yn darparu amgylchedd mwy diogel a mwy addas i chwaraewyr o bob oedran, wrth greu cyfleoedd pellach ar gyfer criced iau, hyfforddi a gwirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr y clwb eisoes yn gwneud cyfraniad enfawr at gynnal y caeau chwarae a threfnu gweithgareddau, a bydd y prosiect hwn yn eu helpu i adeiladu ar y gwaith rhagorol hwnnw."

Cytunodd y Cabinet hefyd ar newidiadau i'r broses gymeradwyo Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan alluogi Grŵp Llywio TAC y Cyngor i gymeradwyo ceisiadau cymwys am gyllid hyd at £250,000, yn amodol ar y gwiriadau ariannol a chyfreithiol gofynnol.  Mae hyn yn unol â diwygiadau i'r Cynllun Dirprwyo a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mehefin 2026.

Chwilio A i Y

Back to top