Uwchraddio peiriannau tocynnau parcio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher 02 Medi 2026

Disgwylir i'r gwaith i uwchraddio peiriannau tocynnau parcio mewn pum maes parcio a weithredir gan y cyngor ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau ym mis Medi. 

Bydd y gwaith yn digwydd i ddechrau mewn meysydd parcio ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 15 Medi cyn symud i Borthcawl a Rest Bay o 22 Medi. Disgwylir i bob lleoliad gymryd tua dau i dri diwrnod i'w gwblhau.

Bydd y gwelliannau yn gwneud y peiriannau yn haws i'w defnyddio ac yn fwy hygyrch i breswylwyr ac ymwelwyr, tra hefyd yn bodloni gofynion diweddaraf y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd trwy gael eu gosod mewn lleoliadau ac uchder hygyrch yn y meysydd parcio.

Er nad oes disgwyl unrhyw aflonyddwch mawr, efallai na fydd rhai peiriannau ar gael dros dro tra bod y gwaith yn digwydd. Bydd PayByPhone yn parhau i fod ar gael, a gall modurwyr ddefnyddio'r ap neu ffonio PayByPhone yn uniongyrchol i dalu am barcio.

Mae'r rhaglen yn cynnwys meysydd parcio yn:

•    Neuadd Fowlio, Pen-y-bont ar Ogwr
•    Maes Parcio Pwll Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Maes parcio yn y cefn)
•    Heol Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr 
•    Maes Parcio Rest Bay
•    Maes Parcio Hillsboro, Porthcawl

"Mae'r gwelliannau newydd hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob preswylydd ac ymwelydd, tra hefyd o fudd i brofiad bob defnyddiwr maes parcio. "Rydym yn gweithio gyda'r peirianwyr i leihau unrhyw aflonyddwch yn ystod y gwaith, a hoffem ddiolch i breswylwyr ac ymwelwyr am eu cydweithrediad."
Peiriant tocynnau parcio

Chwilio A i Y

Back to top