Y Cyngor i fuddsoddi £93,000 mewn gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi gwerth £93,000 o gyllid trafnidiaeth ranbarthol mewn cyfres o welliannau ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol a fydd yn cynnig manteision newydd i deithwyr yn ogystal â chefnogi mwy o deithio cynaliadwy.

Bydd teithwyr yng Nghwm Llynfi yn elwa ar adnewyddiad gwerth £48,000 o'r llochesi bysus yng ngorsaf fysus Maesteg sydd â’r nod o wella eu cysur wrth gefnogi ac annog newidiadau tuag at ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy.

Bydd y cyllid sy'n weddill yn cael ei fuddsoddi mewn gosod cyfres o arddangosfeydd electronig di-bapur solar a batri newydd a fydd yn darparu gwell gwybodaeth amser real am wasanaethau, yn lleihau ansicrwydd ynghylch amseroedd aros ac yn galluogi teithwyr i dderbyn diweddariadau a negeseuon brys.

Bydd tair o'r unedau arddangos newydd yn cael eu gosod yng ngorsaf fysus Maesteg, a bydd unedau ychwanegol yn cael eu gosod mewn llochesi bysus sydd wedi'u lleoli yn Cheapside a Stryd Nolton yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

"Bydd y £93,000 o gyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio'n dda gan wella ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau bod teithwyr yn gallu derbyn gwybodaeth gywir, gyfredol am wasanaethau wrth ddefnyddio llochesi cyfforddus, effeithiol. "Byddwn hefyd yn gwneud ceisiadau ychwanegol i'r gronfa drafnidiaeth ranbarthol yn y dyfodol, ac yn ceisio buddsoddi ymhellach yn ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol."

Chwilio A i Y

Back to top