Y Cyngor yn archwilio buddsoddiad partneriaeth ar gyfer cae chwaraeon 3G newydd ar gyfer Porthcawl
Dydd Llun 21 Medi 2026
Mae cyfleoedd yn cael eu harchwilio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phartneriaid i ddatblygu cae glaswellt artiffisial 3G newydd yn Ysgol Gyfun Porthcawl, a allai ddarparu cyfleusterau chwaraeon gwell i ddisgyblion, clybiau lleol a grwpiau cymunedol.
Mae disgwyl i adroddiad gael ei ystyried gan Gabinet y cyngor ar 22 Medi sy'n cynnig datblygu cyfleuster 3G newydd yn cynnwys goliau, ffensys, llifoleuadau LED ac arwyneb pad sioc.
Mae'r cynnig wedi'i ddatblygu mewn ymateb i'r galw cynyddol am gaeau artiffisial ar draws y fwrdeistref sirol, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag ysgolion, sefydliadau chwaraeon a phartneriaid ariannu i archwilio cyfleoedd i sicrhau buddsoddiad allanol ar gyfer y prosiect.
Yn dilyn ceisiadau i Cymru Football Foundation a Chwaraeon Cymru, mae cyllid amodol o £241,473 a £150,000 yn y drefn honno wedi'i sicrhau. Os bydd y prosiect yn mynd rhagddo, byddai'r cyllid allanol hwn yn golygu nad oes angen cyfraniad cyfalaf gan y Cyngor ar hyn o bryd.
Os caiff ei gefnogi, byddai'r cyfleuster arfaethedig ar gael i'w ddefnyddio gan yr ysgol yn ystod oriau gweithredol ac at ddefnydd cymunedol ar ôl ysgol, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.
Byddai unrhyw drefniadau rheoli yn y dyfodol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal a chadw'r cyfleuster yn barhaus a chronfa wedi'i neilltuo i gefnogi ailwynebu yn y dyfodol.
Mae'r cynnig hefyd yn dilyn agor cae yn ddiweddar yn Ysgol Gyfun Bryntirion.
"Mae'r cynnig hwn yn tynnu sylw at werth gweithio'n agos gyda'n partneriaid ac archwilio pob cyfle i sicrhau cyllid allanol ar gyfer prosiectau a allai fod o fudd i'n cymunedau. "Mae lefel y gefnogaeth a nodwyd gan Cymru Football Foundation a Chwaraeon Cymru yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth a cheisiadau grant llwyddiannus. "Mae galw amlwg am gaeau artiffisial o safon ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae'r cynnig hwn yn rhoi cyfle i archwilio’r ffordd y gallwn gynyddu'r ddarpariaeth tra'n gwneud y defnydd gorau posibl o fuddsoddiad allanol."