Y Cyngor yn cadarnhau trefniadau ar gyfer cyfnod yr ŵyl 2025/26
Dydd Iau 18 Rhagfyr 2025
Dyma atgoffa trigolion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd newidiadau i rai gwasanaethau a gynigir gan y cyngor a'i bartneriaid dros gyfnod y Nadolig.
Bydd yr oriau agor ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid a Swyddfeydd Dinesig fel a ganlyn:
• Dydd Llun 22 Rhagfyr: 8.30am – 5pm
• Dydd Mawrth 23 Rhagfyr: 8.30am – 5pm
• Noswyl Nadolig: 8.30am - 4.30pm
• Dydd Nadolig: Ar gau
• Gŵyl San Steffan: Ar gau
• Dydd Llun 29 Rhagfyr: 8.30am – 5pm
• Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 8.30am – 5pm
• Nos Galan: 8.30am - 4.30pm
• Dydd Calan: Ar gau
• Dydd Gwener 2 Ionawr: Ar gau
Ar y diwrnodau cau, dylai preswylwyr fynd i wefan y Cyngor i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth maen nhw'n chwilio amdanoi. Bydd y Gwasanaeth Fy Nghyfrif hefyd ar gael i breswylwyr roi gwybod am unrhyw faterion i'r cyngor, fel y gellir eu datrys cyn gynted â phosibl unwaith y bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau.
Mae cymorth brys y tu allan i oriau hefyd ar gael drwy Uned Cymorth Cwsmeriaid a Chymunedol (CCSU) y Cyngor. I gael mynediad i'r gwasanaeth hwn, ffoniwch y rhif ffôn gwasanaethau cwsmeriaid arferol (01656 634634).
Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, ond nid ar Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan neu Ddydd Calan.
Bydd casgliadau sydd i fod ar Ddydd Nadolig (dydd Iau 25 Rhagfyr) yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr, tra bydd casgliadau sydd i fod ar Ddydd San Steffan (dydd Gwener 26 Rhagfyr) yn cael eu casglu ddydd Sul 28 Rhagfyr.
Ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Calan, bydd yr holl wastraff ac ailgylchu sydd i'w gasglu ddydd Iau 1 Ionawr yn cael ei gasglu ddydd Gwener 2 Ionawr. O ganlyniad, bydd trigolion y mae eu diwrnod casglu arferol yn ddydd Gwener, yn cael eu casgliadau ddiwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn 3 Ionawr. Ar ôl hyn, bydd yr holl gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yn dychwelyd i'w hamserlen arferol.
Ar gyfer y casgliad cyntaf ar ôl Dydd Nadolig, bydd pob cartref yn gallu rhoi bag gwastraff ychwanegol allan i helpu i ddarparu ar gyfer y sbwriel ychwanegol a all gronni dros dymor yr ŵyl. Bydd gan Gynllun B gerbydau ailgylchu ychwanegol ar gyfer casglu, gan gynnwys cerbydau ychwanegol i gasglu cardfwrdd.
Bydd yr holl Ganolfannau Ailgylchu Cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan ond ar agor fel arfer ar bob diwrnod arall. Mae coed Nadolig go iawn yn gallu cael eu hailgylchu ym mhob canolfan ailgylchu gymunedol, a bydd modd hefyd i fynd â nhw i Ddepo Waterton o 5 Ionawr ymlaen.
I unrhyw un a hoffai dalu teyrnged i anwyliaid, bydd Capel Coffa, Clasty a thir Amlosgfa Llangrallo ar agor rhwng 10.30am a 4pm ar wyliau banc a dydd Sul. Ar bob diwrnod arall, bydd oriau agor arferol y gaeaf ar waith (Llun-Iau 9am-5pm) a (dydd Gwener-Sadwrn 9am-4pm). Caiff y gatiau mynediad eu cloi 10 munud cyn yr amser cau.
Mae Halo Leisure hefyd wedi cyhoeddi eu horiau agor dros y Nadolig ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan. Am fanylion am oriau agor llyfrgelloedd, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Yn anffodus, i rai teuluoedd nid yw'r Nadolig bob amser yn achlysur heddychlon a llawen. I'r rhai sydd â phryderon am gam-drin domestig, mae rhestr lawn o fanylion cyswllt brys a chanllawiau eraill ar gael ar wefan y cyngor. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
Os ydych chi'n poeni am rywun a allai fod yn cysgu ar y stryd, gellir adrodd am hyn drwy ddefnyddio'r wefan Street Link. Mae gwneud hynny yn anfon manylion i'r awdurdod lleol neu gymorth allgymorth perthnasol, ac yna ceisir dod o hyd i'r person a sicrhau bod ganddo fynediad at ystod eang o help.