Y Cyngor yn camu i mewn i archwilio opsiynau hirdymor ar gyfer Llwybr Cymunedol Cwm Garw

Dydd Iau 19 Mawrth 2026

Mae opsiynau hirdymor yn cael eu harchwilio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau dyfodol Llwybr Cymunedol Cwm Garw ar ôl iddo gael ei gau'n rhannol gan Network Rail yn 2024.

Ar hyn o bryd, mae’r llwybr yn rhan o rwydwaith teithio llesol y Cyngor ond mae'r tir yn eiddo i Network Rail, a gaeodd y llwybr oherwydd pryderon diogelwch gan gynnwys strwythurau ansefydlog a llystyfiant gormodol.

Yn y gorffennol, mae'r Cyngor wedi defnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i wneud gwaith atgyweirio ar y llwybr, ond mae angen gwaith mwy sylweddol erbyn hyn.

Gan nad yw'r tir o dan reolaeth y Cyngor, mae peirianwyr arbenigol wedi'u penodi hefyd gan ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i gynnal arolygon manwl. Mae'r rhain yn cynnwys asesu cyflwr strwythurau allweddol ac amcangyfrif lefel y gwaith sydd ei angen i adfer strwythurau i safon ddiogel, gan ganiatáu i'r llwybr gael ei ailagor i'r cyhoedd.

Mae canlyniadau'r arolwg bellach yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor fel y gallant ystyried cyflwr y llwybr a'r costau posibl o fabwysiadu’r brydles a chynnal y llwybr yn y tymor hir. 

"Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw Llwybr Cymunedol Cwm Garw i drigolion lleol, a dyna pam rydyn ni’n archwilio opsiynau yn y dyfodol mewn ffordd gyfrifol ac ystyriol. "Gan nad yw'r tir yn eiddo i'r Cyngor, ni fydd modd cael ateb cyflym ar gyfer hyn. Fodd bynnag, gall trigolion fod yn sicr ein bod ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb hirdymor. "Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid Teithio Llesol, rhaid i lwybrau beidio â bod mewn perygl o gael eu cau gan drydydd partïon. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ystyried prydles y tir cyn y gall unrhyw waith atgyweirio mawr ddigwydd. "Byddwn ni’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am unrhyw ddatblygiadau newydd. Yn y cyfamser, mae trigolion yn cael eu hannog i beidio â defnyddio'r rhannau o'r llwybr sydd ar gau oherwydd y risgiau iechyd a diogelwch sylweddol."

Chwilio A i Y

Back to top