Y Cyngor yn cefnogi recriwtio swyddogion traffig ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Menywod AIG
Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025
Daeth tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a thîm Menter a Datblygu Economaidd y Cyngor at ei gilydd yr wythnos hon i helpu i recriwtio swyddogion traffig ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Menywod AIG sy’n dod i Borthcawl ddiwedd y mis hwn.
Daeth pobl o bob cwr o'r fwrdeistref sirol i Fôr Porthcawl – unedau modiwlaidd CBSP ym Maes Parcio Hillsboro Place ar gyfer egin fusnesau – i gofrestru fel swyddogion traffig ar gyfer y digwyddiad, gyda CBSP yn cynnig cefnogaeth i gyfranogwyr, a chyda Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu'r cyngor a'r Tîm Datblygu Economaidd a Menter yn trefnu’r diwrnod ac yn sicrhau bod unedau ar gael i gofrestru pobl.
Bydd y swyddogion traffig yn helpu i sicrhau bod y digwyddiad i redeg yn esmwyth wrth iddo gael ei gynnal yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl o ddydd Mercher 30 Gorffennaf i ddydd Sul 3 Awst. Bydd y digwyddiad mawreddog yn cynnwys golffwyr o bob cwr o'r byd yn cystadlu i fod yn Bencampwraig Twrnamaint Agored y Menywod AIG.

Rwy'n falch iawn bod Tîm Menter a Datblygu Economaidd y cyngor a Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi gallu cefnogi’r gwaith o recriwtio Swyddogion Traffig ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Menywod AIG sydd ar ddod. Mae'n ddigwyddiad mawr ar galendr y twrnameintiau, ac rwy'n falch bod cydweithwyr o CBSP wedi camu i’r adwy i gefnogi trigolion sy'n chwilio am waith dros dro. Dymunaf bob llwyddiant i bawb sy'n rhan o’r digwyddiad, a gobeithio y bydd y tywydd braf yn parhau drwy gydol y twrnamaint!
Mynegodd Correta Kairu o CSP, y cwmni sy'n rheoli'r parcio ar gyfer y digwyddiad, ei diolchgarwch: "Rwy'n ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i ni unwaith eto, yn union fel y gwnaethant yn ôl yn 2023 yn ystod y Bencampwriaeth Agored Hŷn. Ein nod yw sicrhau bod pobl leol yn cymryd blaenoriaeth ar gyfer gwaith dros dro yn ystod ein digwyddiadau ledled y DU ac roeddem yn ffodus i gwrdd â phobl mor hyfryd ddoe ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw cyn bo hir!"