Y Cyngor yn dangos ei gefnogaeth i Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2026
Dydd Llun 26 Ionawr 2026
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr unwaith eto yn dangos ei gefnogaeth i Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2026 drwy oleuo adeilad y cyngor yn borffor fel arwydd o barch a choffâd i'r dioddefwyr a gafodd eu herlid a'u lladd yn yr Holocost ac hil-laddiadau eraill wedi hynny.
Anogir trigolion ledled y fwrdeistref sirol i ymuno yn Seremoni 'Goleuo'r Tywyllwch' y wlad trwy gynnau cannwyll am 8pm ar nos Fawrth 27 Ionawr, a’i rhoi yn ddiogel yn eu ffenestr i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i gasineb, rhagfarn ac erledigaeth ac i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw.
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 yw 'Pontio Cenedlaethau' sy'n galw ar bobl o bob oed i gymryd cyfrifoldeb dros gofio, ac i sicrhau bod gwersi yr Holocost yn cael eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Wrth i leisiau goroeswyr ddod yn llai, mae'r thema yn tynnu sylw at bwysigrwydd cadw tystiolaeth, cysylltu cenedlaethau a throi'r cof yn weithred ystyrlon.
Sefydlwyd Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr 2000, pan gyfarfu cynrychiolwyr o 46 o wledydd ledled y byd yn Stockholm i drafod addysg, cofio ac ymchwil i’r Holocost. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn, llofnododd yr holl fynychwyr ddatganiad yn ymrwymo i gadw cof y rheini a lofruddiwyd yn yr Holocost.
Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i ddarllen y Saith Datganiad o Ymrwymiad ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost.
I gofrestru ar gyfer seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost yn y DU, ewch i: wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn amser i gofio, i fyfyrio ac o gyfrifoldeb, ac mae'r thema hon yn ein hatgoffa na ddylai’r cofio ddod i ben gyda'r rheini a oroesodd y digwyddiadau hyn. Yn drasig, mae gwrthsemitiaeth, casineb a hil-laddiad yn dal i fodoli ledled y byd, ond trwy sefyll gyda'n gilydd i gofio, a herio pob math o gasineb a rhagfarn, gallwn helpu i adeiladu cymunedau mwy diogel a mwy cynhwysol ar gyfer ein cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol.