Dweud eich dweud: Ymgynghoriad Cyllideb 2026
Y Cyngor yn diogelu cyllid ar gyfer ysgolion yng nghynigion y gyllideb
Dydd Gwener 09 Ionawr 2026
Mae newyddion da i rieni, myfyrwyr ac ysgolion yng nghynion cyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn y gyllideb sy’n cael ei chynnig, mae'r Cyngor wedi gorfod penderfynu lleihau gwariant mewn rhai meysydd, er mwyn arbed £2.4 miliwn. Fodd bynnag, mae diogelu cyllidebau ysgolion yn flaenoriaeth hollbwysig i’r Cyngor.
Er gwaethaf cynlluniau gwreiddiol yn cynnig gostwng cyllidebau ysgolion y flwyddyn dydd i ddod, mae'r cyngor bellach wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu gwneud unrhyw doriadau i gyllidebau ysgolion wrth iddo lansio ei ymgynghoriad cyllideb flynyddol 'Amser i Siarad' ar gyfer 2026-27. Daw'r ymrwymiad hwn wrth i'r cyngor lywio tirwedd ariannol heriol, ond sydd wedi ei liniaru rywfaint gan setliad cyllideb drafft gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru.
Bob blwyddyn, mae'r cyngor yn cael y dasg anodd o gytuno ar gyllideb gytbwys i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu cynnal yn esmwyth. Mae hyn yn cynnwys popeth o ysgolion ac addysg i ofal cymdeithasol, gwastraff ac ailgylchu, cadw ein ffyrdd mewn cyflwr da, llyfrgelloedd, cyfleusterau hamdden, a chymorth hanfodol i'r rhai sy'n ddigartref.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/2t, mae disgwyl y bydd y cyngor yn cael cynnydd o 4.6 y cant mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd y gyllideb refeniw, sef cyfanswm o £550 miliwn, yn cael ei gwario'n llawn i gefnogi'r gwasanaethau a amlinellir. Er bod yr hwb hwn i’r cyllid wedi helpu i leihau'r bwlch yn y gyllideb, mae blynyddoedd o lymder yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn dal i deimlo'r pwysau.
Er mwyn helpu i gydbwyso'r gyllideb, mae cynnydd o 4.95% yn y dreth gyngor yn cael ei gynnig. Yn hanfodol, mae'r cynigion hyn wedi'u cynllunio i amddiffyn y trigolion mwyaf agored i niwed a chadw gwasanaethau rheng flaen i redeg yn effeithiol.
"Mae'r gyllideb arfaethedig yn blaenoriaethu cefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen ac yn anelu at gadw gwasanaethau rheng flaen mor gyfan â phosibl, gan sicrhau cyllid teg i ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cynnydd net mewn cyllid i ysgolion, gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion – gydag ymrwymiad cadarn na fydd targedau arbed arian i’n hysgolion. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae'r cyngor hefyd yn archwilio ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithlon a gwydn, gan gynnwys posibilrwydd defnyddio technoleg ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial i sbarduno gwelliannau."
Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27 yn cael ei thrafod gan Gabinet y Cyngor ar 13 Ionawr 2026.
Dweud eich Dweud
Mae ymgynghoriad cyllideb ‘Amser i Siarad’ y cyngor nawr yn fyw. Mae'r arolwg yn gofyn am eich adborth chi ar ein cynigion. Oherwydd cynnydd hwyr yn ein cyllid mae gennym rywfaint o arian sydd heb ei ddyrannu ar gael ac rydym yn croesawu eich barn ar ble i flaenoriaethu hyn.
Anogir trigolion i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb a rhannu eu barn ar y dyraniadau cyllid arfaethedig, opsiynau’r Dreth Gyngor ac arbedion effeithlonrwydd.