Y Cyngor yn gweithredu ynghylch carafanau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon

Dydd Iau 18 Mehefin 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau bod camau'n cael eu cymryd ar ôl i nifer o garafanau fynd i gaeau chwarae yn Llidiart yn hwyr nos Lun.
 
Mae swyddogion y cyngor wedi cychwyn proses gyfreithiol ar ôl ymweld â'r lleoliad i ymgysylltu â pherchnogion y carafanau a'u cynghori eu bod wedi'u parcio'n anghyfreithlon, ac maent yn gweithio'n agos ochr yn ochr ag asiantaethau partner fel Heddlu De Cymru.

Yn fuan ar ôl i'r carafanau fynd i mewn i'r caeau chwarae, dechreuodd y cyngor y broses o baratoi i gymryd camau i sicrhau eu bod yn gadael y safle. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol gynnal gwiriadau gorfodol ac asesiadau lles mewn amgylchiadau fel hyn, ac mae'r cyngor yn cysylltu â'r gymuned deithiol i ddatrys y sefyllfa cyn gynted â phosibl. Rwyf am roi sicrwydd i drigolion ein bod yn monitro'r sefyllfa'n agos, a bod y broses ar gyfer tynnu'r carafanau yn ddiogel eisoes wedi dechrau.

Bydd y cyngor yn cynnal archwiliad o'r safle unwaith y bydd y carafanau wedi'u symud.

Chwilio A i Y

Back to top