Y Cyngor yn nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2026
Dydd Llun 18 Mai 2026
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi Wythnos Gweithredu ar Ddementia y Gymdeithas Alzheimer’s, gyda chyfres o ddigwyddiadau yn digwydd ar draws y fwrdeistref sirol. Cynhelir Wythnos Gweithredu ar Ddementia rhwng 18 a 24 Mai eleni, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diagnosis cynnar i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, ynghyd ag addysgu am y symptomau mwyaf cyffredin sy'n gysylltiedig â dementia.
Nid yw un o bob tri o bobl yn y DU sy'n byw gyda dementia wedi cael diagnosis, tra bod 95 y cant o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yn dweud bod manteision i gael diagnosis. I gydnabod sut mae dementia yn effeithio ar bobl ledled y fwrdeistref sirol, bydd sawl sefydliad yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy’n addas i bobl â dementia a mannau gwybodaeth ar eich cyfer chi neu anwylyd.
Ddydd Llun 18 a dydd Gwener 22 Mai, bydd prif adeilad y Swyddfa Ddinesig ar Stryd yr Angel yn cael ei oleuo'n las i godi ymwybyddiaeth. Bydd Neuadd Tref Maesteg hefyd yn cael ei goleuo'n las ddydd Mercher 20 Mai.
Bydd Canolfannau Hamdden Halo yn cynnal eu rhaglen 'Feel Good for Life', sydd â’r nod o roi cyfle i bobl sy'n byw gyda dementia ac unigrwydd neu iselder, ynghyd â'u gofalwyr, gymdeithasu a bod yn actif. Mae ganddynt raglen lawn o weithgareddau wedi'u cynllunio ar hyd a lled y fwrdeistref sirol gan gynnwys:
- Ddydd Llun 18 Mai yng Nghanolfan Bywyd Ogwr, bydd gemau yn cynnwys boccia, cyrlio, ac yna cymdeithasu.
- Ddydd Mercher 20 Mai yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, bydd sesiynau nofio sy'n addas i bobl â dementia, ac yna gweithgareddau cymdeithasol gyda thîm Llyfrgell Awen.
- Ddydd Iau 21 Mai, bydd sesiwn ar-lein, lle bydd gweithgareddau egnïol a llawn hwyl yn digwydd o gysur eich cartref eich hun.
- Ddydd Gwener 22 Mai yng Nghanolfan Gymunedol Gogledd Corneli, bydd gemau yn cynnwys boccia, cyrlio, ac yna cymdeithasu.
Hefyd, mae gan Gymdeithas Cyrff Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr sesiynau wedi'u cynllunio yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:
- Ddydd Llun 18 Mai, cynhelir sesiwn Celf a Chrefft yn The Bridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
- Ddydd Iau 21 Mai, bydd Taith Les yn cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Bryngarw ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n cefnogi'r achos.
Bydd Mental Health Matters (MHM) yn cynnal gweithgareddau gan gynnwys:
- Ddydd Llun 18 Mai, cynhelir Te Parti Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn Hyb Dementia MHM ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
- Ddydd Mawrth 19 Mai, bydd Hyb Dementia y Pîl yn cynnal gweithgareddau a chymorth gan gymheiriaid, ynghyd â Hyb Dementia MHM ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnal Sesiwn Gelf rhwng 2pm a 4pm.
- Ddydd Mercher 20 Mai, bydd Caffi Cymuned Ofalgar yn cael ei gynnal yn MHM Cymru yn Quarella Road, ynghyd â Hyb Dementia Maesteg yn cynnal gweithgareddau a chymorth gan gymheiriaid yng Nghanolfan Fairfield.
- Ddydd Iau 21 Mai, bydd Hyb Dementia Porthcawl yn cynnal gweithgareddau a chymorth gan gymheiriaid yn y ganolfan YMCA yn John Street, tra bydd Hyb Dementia Sarn yn cynnig yr un peth yng Nghanolfan Gydol Oes Sarn.
- Ddydd Gwener 22 Mai, bydd tîm MHM yn cynnal Taith Les Dementia yng Nghaeau Newbridge, gyda'r man cyfarfod y tu allan i Ganolfan Bywyd Halo Pen-y-bont ar Ogwr. Yn y prynhawn, cynhelir Music for the Mind yn Hyb Dementia MHM yn Stryd Nolton.
Mae digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal ar draws y fwrdeistref sirol yn cynnwys digwyddiad Atgofion Chwaraeon yng Nghlwb Rygbi Porthcawl ddydd Llun 18 Mai, Paned a Sgwrs yn Llyfrgell Pencoed ddydd Mawrth 19 Mai, perfformiad arbennig yn Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr gan Gôr Ysgol Gynradd Pen-y-bont ddydd Mercher 20 Mai a dangosiad sy’n addas i bobl â dementia o Mamma Mia! Yn Neuadd Tref Maesteg ddydd Iau 21 Mai. Bydd Caffi Feel Good hefyd yn cael ei gynnal yng Nghanolfannau Len Evans ddydd Iau 21 Mai.
Mae gan Lyfrgelloedd Awen amrywiaeth o lyfrau ar gael - rhestr lyfrau ‘Darllen yn Well’ ar gyfer dementia gan yr Asiantaeth Ddarllen sy’n cynnwys teitlau a argymhellir gan banel o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, gweithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a staff llyfrgelloedd. Mae'r casgliad wedi'i greu i helpu pobl i ddeall mwy am ddementia ac mae'n cynnwys llyfrau sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor. Mae yna hefyd straeon personol a ffuglen i blant. Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ewch i: https://readingagency.org.uk/get-reading/our-programmes-and-campaigns/reading-well/
Ac yn olaf, mae gan Gymdeithas Alzheimer’s Cymru adnoddau cenedlaethol a lleol ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr, a'u gweithwyr proffesiynol. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.alzheimers.org.uk/get-involved/dementia-action-week
"Mae'n wirioneddol ysbrydoledig gweld cymaint o unigolion a sefydliadau yn cydweithio i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o ddementia ac arddangos yr adnoddau cymorth helaeth sydd ar gael. Yn anffodus, bu farw fy nhad fis diwethaf ar ôl brwydr gydag Alzheimer's ac mae'r cymorth a gawsom gan y staff iechyd wedi bod yn anhygoel. Mae'r digwyddiadau hyn mor bwysig i bobl o amgylch y fwrdeistref sirol ddangos nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod cymorth ar gael i chi a'ch anwylyd. Gall nodi dementia yn gynnar effeithio'n sylweddol ar fywydau'r rhai sydd wedi’u heffeithio arnynt. Un o brif nodau'r wythnos hon o ddigwyddiadau a gweithgareddau yw helpu unigolion i nodi rhai o'r symptomau mwyaf cyffredin a dysgu sut y gallant geisio cymorth ac arweiniad ychwanegol."