Y Cyngor yn rhoi hwb i Faesteg gyda 'Marchnad Nadolig Maesteg Llawen Iawn'

Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025

Gall siopwyr Nadolig edrych ymlaen at 'Farchnad Nadolig Maesteg Llawen Iawn', a gynhelir ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr rhwng 11am a 3pm yn Sgwâr Marchnad Maesteg. 

Mae’n cael ei drefnu gan dîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor a bydd y digwyddiad Nadoligaidd yn trawsnewid y sgwâr gyda stondinau lleol, anrhegion wedi'u gwneud â llaw, a bwyd a diod tymhorol, gan greu awyrgylch cynnes ac atyniadol i deuluoedd, preswylwyr ac ymwelwyr. 

Gan adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad 'Maesteg ar y Fwydlen' ym mis Hydref, ddaeth â nifer sylweddol o ymwelwyr ac adborth cadarnhaol gan fasnachwyr a'r cyhoedd fel ei gilydd, mae'r farchnad Nadolig yn parhau ag ymrwymiad y cyngor i gefnogi mentrau lleol a darparu cyfleoedd masnachu gwerthfawr i fusnesau bach.

Bydd perfformiadau byw, gan gynnwys corau ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, yn ychwanegu at naws yr ŵyl trwy gydol y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, gan ategu'r stondinau a'r gweithgareddau fydd ar gael. 

"Rwyf wrth fy modd yn cefnogi'r digwyddiad gwych hwn a fydd nid yn unig yn darparu prynhawn o hwyl Nadoligaidd a dathlu cymunedol ond hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad parhaus i hyrwyddo mentrau lleol ac annog pobl i 'siopa'n lleol' y Nadolig hwn."

Mae'r farchnad Nadolig yn dilyn llwyddiant y fenter dros dro yn Uned 14 yn Sgwâr y Farchnad, sy'n parhau i gefnogi busnesau newydd lleol. 

Gwahoddir busnesau lleol i fynegi diddordeb mewn masnachu yn y digwyddiad yma.

Chwilio A i Y

Back to top