Y Cyngor yn ymuno â phartneriaid lleol i gefnogi'r Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Dydd Llun 19 Mai 2025

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno ag eraill ledled y DU i gefnogi Wythnos Gweithredu ar Ddementia’r Gymdeithas Alzheimer – digwyddiad cenedlaethol sy’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diagnosis cynnar i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt ac addysgu cynulleidfaoedd am symptomau mwyaf cyffredin dementia. 

Mae miloedd o bobl ar hyd a lled Cymru wedi cael diagnosis o ddementia, ac i gydnabod hyn yn lleol, bydd sawl sefydliad ym mhob rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy’n deall dementia a mannau gwybodaeth ar eich cyfer chi neu anwylyd dros gyfnod yr ymgyrch.  

Yn ystod yr wythnos, 19-25 Mai, bydd prif adeilad y Swyddfa Ddinesig ar Stryd yr Angel yn cael ei oleuo'n las i godi ymwybyddiaeth. A bydd Gwasanaeth Dementia Integredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal bore coffi ddydd Mawrth, 20 Mai rhwng 10am a 12pm, yng Nghanolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn lleol, bydd Canolfannau Hamdden Halo yn cynnal rhaglen 'Feel Good for Life', sydd â’r nod o roi cyfle i bobl sy'n byw gyda dementia ac unigrwydd neu iselder, ynghyd â'u gofalwyr, gymdeithasu a bod yn actif. Mae ganddynt raglen lawn o weithgareddau wedi'u cynllunio ar hyd a lled y fwrdeistref sirol gan gynnwys:

·       Ddydd Llun, 19 Mai yng Nghanolfan Bywyd Ogwr bydd gemau yn cynnwys boccia, cyrlio, ac yna cymdeithasu.

·       Ddydd Mercher, 21 Mai, yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr bydd sesiynau nofio sy'n addas i bobl â dementia, ac yna gweithgareddau cymdeithasol gyda thîm Llyfrgell Awen.

·       Ddydd Iau, 22 Mai, naill ai ar-lein neu yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Neuadd Fowlio Dan Do) bydd staff Halo yn cynnal gweithgareddau cadw'n heini cyfeillgar am hanner awr ac yna digwyddiad  ‘Canu i’r Ymennydd' y Gymdeithas Alzheimer, gan gynnwys gwestai teyrnged arbennig am un diwrnod yn unig, yr holl ffordd o Tennessee – Dolly Parton

·       Ddydd Gwener, 22 Mai, yng Nghanolfan Gymunedol Gogledd Corneli bydd ymarferion band gwrthiant a gemau fel boccia a chyrlio, ac yna gweithgareddau cymdeithasol gyda thîm Llyfrgell Awen. 

Mae gan Gymdeithas Cyrff Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) lawer ar y gweill hefyd yn ystod yr wythnos, gan gynnwys stondin yn Halo Pen-y-bont ar Ogwr, lle bydd staff ar gael i sgwrsio am y gweithgareddau cymunedol ystyriol o ddementia sydd ar y gweill. Byddant hefyd yn cynnal taith gerdded mewn partneriaeth â Chanolfan Bywyd Halo ddydd Mercher, 21 Mai, 2-3pm, yng Nghaeau Trecelyn ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n cefnogi'r achos.  Ar ôl y daith gerdded bydd te prynhawn gyda chrefftau yng Nghanolfan Bywyd Halo. Mae hwn yn bennaf ar gyfer y bobl â dementia sy'n cymryd rhan yn y rhaglen 'Feel Good For Life'.

Bydd eu llyw-wyr cymunedol a’u swyddog cymorth dementia yn bresennol mewn gweithgareddau cymorth dementia ochr yn ochr â phartneriaid ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys:

·       Materion Iechyd Meddwl – O Amgylch Hwb Dementia Pen-y-bont ar Ogwr

·       Llyfrgelloedd Awen – Celf a chrefft Llyfrgell y Pîl

·       Y Gweilch yn y gymuned – Atgofion chwaraeon Porthcawl

·       Y Gymdeithas Alzheimer – Canu i’r Ymennydd Pen-y-bont ar Ogwr

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Abi Jenkins - Abijenkins@bavo.org.uk

Gallech hefyd fynd i Lyfrgelloedd Awen ar draws y Fwrdeistref Sirol sydd ag amrywiaeth o lyfrau - rhestr lyfrau ‘Darllen yn Dda' ar gyfer dementia gan yr Asiantaeth Ddarllen sy’n cynnwys teitlau a argymhellir gan banel o bobl yr effeithir arnynt gan ddementia, gweithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a staff llyfrgelloedd. Mae'r casgliad wedi'i greu i helpu pobl i 

ddeall mwy am ddementia ac mae'n cynnwys llyfrau sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor. Mae yna

hefyd storïau personol a ffuglen i blant. Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ewch i: https://readingagency.org.uk/get-reading/our-programmes-and-campaigns/reading-well/

Ac yn olaf, mae gan Cymdeithas Alzheimer’s Cymru adnoddau cenedlaethol a lleol ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr, a'u gweithwyr proffesiynol. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.alzheimers.org.uk/get.../dementia-action-week

"Mae'n wych gweld cymaint o bobl a sefydliadau'n dod at ei gilydd i helpu i godi mwy o ymwybyddiaeth o ddementia a'r ystod enfawr o gefnogaeth sydd ar gael. "Gall diagnosis cynnar wneud gwahaniaeth enfawr i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt, ac un o nodau'r gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau’r wythnos hon fydd helpu pobl i nodi rhai o'r symptomau mwyaf cyffredin a dysgu sut mae cael cymorth a chyngor pellach."
Y Swyddfeydd Dinesig wedi'u goleuo'n las ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Ddementia
Y Swyddfeydd Dinesig wedi'u goleuo'n las ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Chwilio A i Y

Back to top