Y gofalwr maeth Amy yn annog eraill i ystyried maethu yn ystod Pythefnos Gofal Maeth
Dydd Llun 12 Mai 2025
Mae gofalwyr maeth Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau parhaol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch ymwybyddiaeth maethu fwyaf y flwyddyn, yn cael ei chynnal rhwng 12 a 25 Mai 2025, gyda'r thema eleni yn dathlu pŵer perthnasoedd.
Boed yn gysylltiad rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy’n cael ei meithrin gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu'r cyfeillgarwch sy’n datblygu rhwng gofalwyr maeth o fewn cymuned, perthnasoedd cryf yw'r edau euraidd sy'n rhedeg drwy bob stori maethu.
Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.
Rhannodd Amy a Rhys eu stori am y perthnasoedd maen nhw wedi'u ffurfio o ganlyniad i faethu drwy Faethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.
“Fe ddechreuon ni faethu y llynedd felly rydyn ni'n gymharol newydd i'r gymuned faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond rydyn ni wedi gwneud cysylltiadau anhygoel yn barod. Rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gofalwyr maeth arloesol (gofalwyr sy'n ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol i gefnogi gofalwyr maeth eraill a'r gwasanaeth maethu) ers i ni ddechrau ar y daith hon.
“Rydyn ni'n mynychu grwpiau cymorth coffi, ac wedi darganfod bod y cyngor gorau’n dod gan y rheiny sydd eisoes wedi profi'r hyn rydyn ni'n mynd drwyddo. Mae dysgu oddi wrth eraill, clywed eu profiadau, gwrando ar sut maen nhw wedi ymdopi â sefyllfaoedd penodol mor ddefnyddiol i ni fel gofalwyr maeth newydd. Mae'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn werth chweil – maen nhw bob amser yno i ni pan fo angen.
“Mae ein plant yn chwarae gymaint o ran yn y daith maethu hon ag yr ydyn ni, ac maen nhw wedi ymgymryd ag e â’u holl galonnau. Mae'r berthynas maen nhw wedi'i meithrin gyda'r un bach yn ein gofal yn anhygoel ac mae wedi’n helpu ni i wybod ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir i faethu.
“Roedd y broses i ddechrau maethu yn anhygoel hefyd, o'r ymweliad cychwynnol gyda'r Swyddog Recriwtio, Dawn, lle’r oedd y cyfathrebu’n berffaith, i’r asesiad gyda'n gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol – fe wnaethon nhw bethau mor hawdd. Roedden ni bob amser yn gwybod beth oedd yn digwydd, ac ar ôl cael ein cymeradwyo fel gofalwyr maeth, mae'r berthynas â'r bobl hyn wedi parhau.
“Cymryd rhan mewn grwpiau cymorth coffi, mynychu digwyddiadau a chwrdd â gofalwyr maeth eraill yw'r peth gorau i'w wneud i ffurfio perthnasoedd parhaol ac rydyn ni’n gwerthfawrogi'r cysylltiadau rydyn ni wedi bod yn eu datblygu.”
Mae Pythefnos Gofal Maeth yn ddigwyddiad blynyddol hynod bwysig i'n cymunedau ddod at ei gilydd i gefnogi ein gofalwyr maeth lleol, eu teuluoedd, a'r plant a'r bobl ifanc y maen nhw’n gofalu amdanynt. Eleni, mae'r ffocws ar y perthnasoedd cryf ac ymddiriedus y tu ôl i bob taith faethu. Gall y cysylltiadau hyn fod rhwng gofalwr maeth a phlentyn, cefnogaeth ein gweithwyr cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y cyfeillgarwch sy’n datblygu yn ein cymunedau maethu, neu'r cysylltiadau â theuluoedd biolegol. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod ac yn meithrin y perthnasoedd diwyro hyn, gan eu bod yn helpu i ffurfio sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol y plant a’r bobl ifanc sy’n cael profiad fod mewn gofal. Hoffwn ddathlu a diolch i'n gofalwyr maeth rhagorol a’n cydweithwyr ym Maeth Cymru Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cydnabod y cysylltiadau pwerus hyn sy'n helpu i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc yn ein gofal.
Dewch i gwrdd â thîm Maeth Cymru Pen-y-bont ar Ogwr wyneb yn wyneb y Pythefnos Gofal Maeth hwn yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Mercher 14 Mai – Parc Gwledig Bryngarw, 4pm-6pm
- Dydd Iau 15 Mai – Neuadd Tref Maesteg, 9.30am-1.30pm
- Dydd Llun 19 Mai – Ysbyty Tywysoges Cymru, 9.30am-1.30pm
Fel arall, gallwch ymuno â Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr ar-lein ddydd Mercher, 21 Mai, rhwng 7pm-8pm am sesiwn wybodaeth rithwir o gysur eich cartref eich hun.
Ewch i'n gwefan i gael y ddolen i gofrestru yma.
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i https://penybont.maethucymru.llyw.cymru/
