Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Y Gweilch yn dychwelyd i Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mawrth 12 Awst 2025
Mae'r Gweilch wedi derbyn croeso cynnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Cae’r Bragdy Dunraven yn cynnal eu gemau cartref yn ystod eu hymgyrch yn 2025-26.
Bydd Cae’r Bragdy yn rhoi cartref dros dro i'r tîm wrth iddynt barhau i gadarnhau prydles ar gyfer Stadiwm Sain Helen yn Abertawe. Y gobaith yw y bydd y maes newydd yn barod ar eu cyfer mewn pryd ar gyfer tymor y flwyddyn nesaf.

“Rwy'n falch iawn o groesawu'r Gweilch yn ôl i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ganddyn nhw gysylltiad hir â'r ardal ac maent wedi chwarae yng Nghae’r Bragdy sawl gwaith yn y gorffennol, gan gynnwys eu buddugoliaeth gofiadwy dros Sale Sharks yng Nghwpan Her Ewrop. “Mae Cae’r Bragdy Dunraven yn ddewis gwych gan y bydd yn darparu canolfan i'r tîm a'r cefnogwyr fel ei gilydd sy'n gorwedd yng nghalon y dref. Mae’n cynnig cyfleusterau ardderchog, digon o leoedd i barcio a chysylltiadau hawdd â choridor yr M4 a gorsafoedd trên a bysiau cyfagos, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol a hawdd ei gyrraedd. “Mae'r symudiad hwn yn gwneud synnwyr perffaith, ac rwy'n dymuno pob lwc i’r Gweilch ar gyfer tymor 2025-26.”
“Gan ein bod am ddarparu'r profiad gorau posibl o'r cychwyn cyntaf, rydyn ni wedi penderfynu chwarae un tymor yng Nghae’r Bragdy Dunraven ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth i ni ddatblygu Stadiwm Sain Helen i’r safon y mae'r Gweilch a'n cefnogwyr yn ei disgwyl. “Hoffwn ddiolch yn bersonol i Bridgend Ravens a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr am fod mor groesawgar wrth ein caniatáu i chwarae yng Nghae’r Bragdy y tymor hwn.”