Y rhaglen Llwybrau at Ofal yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfa mewn gofal cymdeithasol
Dydd Iau 10 Medi 2026
Yn dilyn llwyddiant cyrsiau 'Llwybrau at Ofal' blaenorol, mae timau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y Cyngor yn cynnig cyfle arall i bobl sy'n dymuno ymuno â maes gofal cymdeithasol.
Cynhelir y rhaglen bythefnos am ddim o ddydd Llun 5 Hydref i ddydd Gwener 16 Hydref 2026, rhwng 9.30am a 3pm ac mae'n agored i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n 18 oed neu'n hŷn.
Bydd y rhaglen, a gynhelir yng Nghanolfan Bywyd Halo Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig mynediad i gyfranogwyr at hyfforddiant achrededig, cyfres o weithdai addysgiadol a'r cyfle i feithrin dealltwriaeth fanwl o ddisgwyliadau a rôl gweithiwr gofal cymdeithasol.
Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfres o weithdai addysgiadol, ochr yn ochr â chyfleoedd i glywed gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r rheini sy'n derbyn cymorth, gan helpu cyfranogwyr i gael gwell dealltwriaeth o rôl gweithiwr gofal cymdeithasol.
Mae’r rhaglen wedi'i hanelu at bobl sydd ag ychydig o brofiad ym maes gofal cymdeithasol neu ddim o gwbl, yn ogystal â'r rheini sy'n ystyried newid gyrfa, bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac archwilio cyfleoedd cyflogaeth yn y sector.
Arweiniodd rhaglen y llynedd at bedwar cyfranogwr yn sicrhau rolau gyda'r Cyngor, ochr yn ochr â nifer o ganlyniadau cyflogaeth a gwirfoddoli eraill.
"Mae Llwybrau at Ofal yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gael gwybodaeth am y gwahanol rolau sydd ar gael a datblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i gymryd y cam nesaf hwnnw. "Does dim rhaid i chi feddu ar brofiad blaenorol o weithio ym maes gofal. Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennych agwedd gadarnhaol a diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi eraill. "Gall gweithio ym maes gofal cymdeithasol fod yn hynod werth chweil, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y sector i gael rhagor o wybodaeth a manteisio ar y rhaglen am ddim hon."
Dywedodd Claire Evans, a fynychodd y cwrs cyntaf, ac sy'n gweithio yn un o gartrefi gofal preswyl yr awdurdod: “Roeddwn i wedi gweithio mewn archfarchnad fawr am ddeuddeg mlynedd cyn cymryd amser i ffwrdd i ofalu am fy nheulu. Roeddwn i'n gwybod bod fy rôl flaenorol wedi rhoi sgiliau defnyddiol iawn a throsglwyddadwy i mi.
“Er fy mod i ychydig yn amheus ar y dechrau, cefais gyngor cadarnhaol ac anogaeth i fynychu’r cwrs gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, a dwi mor falch nawr fy mod i wedi cofrestru!
“Roedd y cwrs yn gwbl ysbrydoledig ac, o ganlyniad, rydw i wedi penderfynu newid gyrfa i weithio yn y diwydiant gofal cefnogol.”
Ychwanegodd Claire ei bod yn mwynhau ei rôl newydd yn fawr, wrth ddysgu am wahanol agweddau ar ei swydd, gweithio gyda'r preswylwyr, a dod i'w hadnabod.
I gael rhagor o fanylion am y rhaglen sydd ar ddod, cysylltwch â thîm Cyflogadwyedd y Cyngor ar 01656 815317 neu e-bostiwch employability@bridgend.gov.uk.