Ysgol Gyfun Pencoed yn derbyn gwobr am y cymorth a gynigir i blant y Lluoedd Arfog
Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025
Mae Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru) wedi dyfarnu Gwobr Ysgolion sy’n Ystyriol o’r Lluoedd Arfog Efydd i Ysgol Gyfun Pencoed am y gefnogaeth werthfawr a gynigir i blant milwyr yn yr ysgol.
Mae SSCE Cymru yn gweithio gydag ysgolion i ymgorffori arfer da wrth gefnogi plant milwyr; gan greu amgylchedd cadarnhaol iddynt rannu profiadau, yn ogystal ag annog lleoliadau addysgol i ymgysylltu'n fwy â chymuned y Lluoedd Arfog. Mae'r sefydliad yn cynnig tair lefel o wobrau i ysgolion weithio tuag atynt, sef efydd, arian ac aur, ac mae maen prawf ar gyfer pob un.
Mae Ysgol Gyfun Pencoed wedi mynd ati mewn amryw o ffyrdd i helpu eu dysgwyr sy’n blant i filwyr, gan gynnwys cyfarfod grŵp SSCE bob pythefnos i roi cyfle i ddysgwyr drafod unrhyw bryderon neu brofiadau, yn enwedig pan fydd rhiant/anwylyd wrthi’n gwasanaethu. Mae disgyblion yn rhannu strategaethau ymdopi cadarnhaol, yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiynau meithrin tîm a gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, gan helpu i ddatblygu sgiliau arwain a chynnig y cyfle i’r disgyblion sy’n blant i filwyr y Lluoedd Arfog ffynnu.
Mae gan Edward Jones, y Pennaeth, a Mrs Etta Bishop, arweinydd SSCE yr ysgol, brofiad ymarferol o fywyd milwrol eu hunain, sy'n eu galluogi i gefnogi'r dysgwyr o safbwynt unigryw a chydag empathi.
Yn blentyn y Lluoedd Arfog ac yn ddiweddarach yn wraig i filwr, yn ogystal â deall profiadau plant milwyr, mae Mrs Bishop, sydd wedi bod yn rhedeg y grŵp SSCE ers pum mlynedd, hefyd yn gallu uniaethu ag amgylchiadau'r rhieni, gan ganiatáu iddi feithrin perthynas werthfawr â’r teuluoedd.
Dywedodd Mr Edward Jones: "Yn blentyn y lluoedd fy hun, roedd fy nhad yn Swyddog Gwarant (WO1) yn y REME (Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol), ac rwy’n cofio pa mor anodd oedd symud ysgol yn ôl o'r Alban i Gymru yn y 1970au. Fel ysgol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cymorth o safon i sicrhau bod plant y Lluoedd yn cael eu croesawu'n effeithiol, gan eu helpu i integreiddio i'n cymuned ysgol yn gyflym, yn ogystal â sicrhau ein bod yn diwallu eu hanghenion lles ac academaidd."

Dywedodd aelod o Flwyddyn 9 o'r grŵp SSCE: "Mae'n braf bod yn rhan o grŵp lle mae pobl yn mynd trwy'r un peth - mae'n ei gwneud hi'n haws cysylltu â nhw, yn wahanol i rai ffrindiau eraill nad ydynt efallai'n deall sut beth yw cael tad i ffwrdd yn y lluoedd."
Ychwanegodd dysgwr arall sy’n blant i filwr: "Rwy'n hoffi bod yn rhan o grŵp y Lluoedd oherwydd mae'n rhoi ychydig o gefnogaeth ychwanegol i bobl gan yr ysgol ac yn eu helpu i ddysgu sut i gefnogi eu teuluoedd a allai hefyd fod yn ei chael hi’n anodd yn emosiynol."
Yn ddiweddar, derbyniodd Ysgol Gyfun Pencoed gydnabyddiaeth bellach o'i hymdrechion ar ôl cael ei dewis i fynd i Gynhadledd Flynyddol Cynghrair SSCE yng Nghaerdydd, lle gofynnwyd i ddysgwyr drafod eu profiadau personol fel plant milwyr.
"Mae hwn yn gyflawniad mor wych i'r ysgol. Mae plant ein Lluoedd yn byw profiad unigryw ac mae staff Ysgol Gyfun Pencoed yn cydnabod ac yn mynd i'r afael â hyn yn y ffordd fwyaf sensitif, cyson a chefnogol. "Rydym yn falch iawn o'r staff addysgu am helpu dysgwyr y Lluoedd Arfog i lywio bywyd ysgol, gan eu galluogi i dderbyn y cyfleoedd gorau, yn ogystal â ffynnu a thyfu."