Ysgol Gyfun Pencoed yn disgleirio yn ei harolwg Estyn

Dydd Iau 17 Gorffennaf 2025

Mae staff a disgyblion Ysgol Gyfun Pencoed yn dathlu adroddiad llawn canmoliaeth gan Estyn yn dilyn arolwg diweddar yn yr ysgol, sy'n tynnu sylw at gryfderau yn amrywio o arweinyddiaeth i gynhwysiant. 

Nododd arolygwyr y dosbarthiad effeithiol o arweinwyr yn yr ysgol, gan rymuso unigolion yn ogystal ag annog perchnogaeth a chydweithio; a’r diwylliant bywiog o ddysgu proffesiynol, sy'n cael ei gefnogi gan yr ‘Arloeswyr Addysgeg’ – grŵp o ddisgyblion sydd wedi cael hyfforddiant i weithio gydag arweinwyr i wneud gwelliannau i arferion dysgu ac addysgu yn yr ysgol.

Roedd yr adroddiad yn canmol y ffaith bod disgyblion o bob rhan o'r ysgol yn cael cyfleoedd i weithredu newid ac i ymgymryd â rolau arwain, gyda gwahoddiad i gymryd rhan mewn amrywiaeth o grwpiau pwysig fel Tîm Arwain y Chweched Dosbarth, Undod (sy’n cefnogi'r gymuned LHDTC+), Parch (sy’n hyrwyddo gwerthoedd gwrth-hiliol) ac Amdani (sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg a diwylliant Cymru).

Mae'r ysgol, a ddisgrifiwyd fel un sy'n hyrwyddo amgylchedd cynnes, tawel a meithringar, wedi cael ei chanmol am flaenoriaethu llesiant pob disgybl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed – cryfder sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan y pennaeth, Mr Edward Jones. 

Ysgol Gyfun Pencoed
“Fy hoff linell o'r adroddiad yw: 'Mae Ysgol Gyfun Pencoed yn ysgol ofalgar a chynhwysol lle mae llesiant unigolion yn cael ei flaenoriaethu, ac mae amrywiaeth yn cael ei dathlu. Mae ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn yn creu sylfaen ddiogel i ddisgyblion ddysgu, tyfu, a ffynnu.' “Fel pennaeth, rwy’n hynod falch o’n hadroddiad arolygu sy’n cydnabod cymaint o’r cryfderau rydym wedi gweithio tuag atynt fel ysgol, gan gynnwys meithrin ymdeimlad dwys a diriaethol o berthyn. Rwy’n falch hefyd fod yr adroddiad yn adrodd hanes ein hysgol a bod canfyddiadau tîm Estyn yn adlewyrchu'r cryfderau a'r meysydd i’w datblygu sydd eisoes wedi cael eu nodi gan yr ysgol, yn ein cynllun gwella ysgol a thrwy ein rhaglen hunanwerthuso strwythuredig.”
“Rydym yn falch iawn o'r adroddiad Estyn gwych y mae Ysgol Gyfun Pencoed wedi'i dderbyn. Mae'n adlewyrchu holl waith caled ac ymroddiad y staff. “Mae’n amlwg bod disgyblion yr ysgol yn elwa o ymrwymiad y staff, yn enwedig o’u hymdrechion i greu ysgol gynhwysol a meithringar lle gall pob dysgwr, o bob gallu, ffynnu.”

Chwilio A i Y

Back to top