Ysgol Gyfun Pencoed yn hawlio’r teitl seiberddiogelwch 'Pencampwr y Pencampwyr'
Dydd Mercher 07 Mai 2025

Ar 12 Chwefror, fe wnaeth 10 tîm Cymreig sy'n perfformio orau yng Nghystadleuaeth Ysgolion CyberFirst Cymru i ferched, a menter gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) i ysbrydoli merched i ddilyn gyrfa ym maes seiberddiogelwch, ddathlu eu llwyddiant yn ICC Cymru, Casnewydd.
Gan dynnu sylw at arweinwyr y diwydiant, roedd y dathliad yn cynnwys cystadleuaeth 'Pencampwr y Pencampwyr' a gafodd ei hennill gan ddisgyblion Blwyddyn 8 o Ysgol Gyfun Pencoed a hawliodd y goron ar gyfer cystadleuaeth y diwrnod, gydag Ysgol Uwchradd Caerdydd yn enillwyr cyffredinol her Ysgolion CyberFirst Cymru.
Dywedodd Charlie, un o ddisgyblion Ysgol Gyfun Pencoed: "Roedd ennill cystadleuaeth 'Pencampwr y Pencampwyr' yn brofiad anhygoel! Roedden ni wedi gweithio mor galed, ac roedd gweld ein hymdrechion yn talu ar ei ganfed yn dwyn boddhad mawr. Y rhan orau oedd datrys yr heriau anoddaf fel tîm a phrofi bod merched yn perthyn i faes seiberddiogelwch!"
Ychwanegodd dysgwr arall, Carys: "Roedd y gystadleuaeth yn ddwys, ond hefyd yn gymaint o hwyl! Roedd yn dangos i mi pa mor gyffrous mae seiberddiogelwch yn gallu bod, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o ferched yn cymryd rhan. Bydda i bob amser yn cofio'r eiliad hon – dim ond y dechrau i ni yw hyn!"
Fe wnaeth SudoCyber, cwmni hyfforddi seiberddiogelwch yn Aberhonddu, drefnu a noddi cystadleuaeth 'Pencampwr y Pencampwyr' a gynhaliwyd yn y digwyddiad, gan roi’r gwobrau a’r tystysgrifau i Ysgol Gyfun Pencoed, yn ogystal â chynnig i rai o'r dysgwyr ymweld ag Aberhonddu am brofiad bywyd go iawn.
Dywedodd Marc Del-Valle, Prif Weithredwr y cwmni: "Hoffen ni longyfarch pawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth 'Pencampwr y Pencampwyr' dan arweiniad SudoCyber Ltd. Roedd yn brofiad arbennig gweld y genhedlaeth nesaf yn paratoi'r ffordd ymlaen, gydag Ysgol Gyfun Pencoed yn flaenllaw fel gwir arloeswyr. Roedd eu tîm yn eithriadol o gymwys, cystadleuol, trefnus a phroffesiynol – pencampwyr haeddiannol ym mhob ystyr. Da iawn i bawb oedd yn gysylltiedig!”
Yn gydweithrediad rhwng Ysgolion CyberFirst Cymru a 'Women in Cyber Unlimited', mae’r digwyddiad dathliadol a gynhaliwyd yn ICC Cymru yn tynnu sylw at gyflawniad merched ym maes seiberddiogelwch yn erbyn cefndir diwydiant lle mae angen mwy o fenywod – mae’r Astudiaeth ISC2 diweddaraf o’r Gweithlu Seiberddiogelwch yn cadarnhau mai dim ond 22 y cant o rolau seiberddiogelwch yn cael eu gwneud gan fenywod.
Ers ei sefydlu yn 2018, mae 'Women in Cyber Unlimited' wedi bod yn ymroddedig i fynd i'r afael â'r diffyg menywod ym maes seiberddiogelwch. Dywedodd Clare Johnson, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Women in Cyber Cymru: “Sefydlais Women in Cyber Unlimited oherwydd diffyg clir o ran amlygrwydd menywod sy'n gweithio yn y sector seiberddiogelwch.
"Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi cael y cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o rwydweithiau a digwyddiadau seiberddiogelwch, ac er bod amrywiaeth yn gwella, mae ffordd bell i fynd. Ers y cyfarfod cyntaf yn 2018, a gynhaliwyd yng Nghymru lle sefydlwyd y rhwydwaith, rydym wedi tyfu'r rhwydwaith i bron 500 o unigolion, ac mae ein cyrhaeddiad bellach ledled y DU a’r tu hwnt.
"Bydda i bob amser yn siarad dros amrywiaeth yn y sector hwn, gan ei fod yn yrfa sy'n cynnig llawer o gyfleoedd gwych, ac mae buddion amlwg iawn i sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol."
Mae mentrau megis cystadleuaeth CyberFirst i ferched sy'n cael ei chynnal gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg menywod yn y sector seiberddiogelwch.
Dywedodd Rachael Lloyd-Davies, a arweiniodd y cynllun yn Ysgol Gyfun Pencoed: "Mae taith seiber Ysgol Gyfun Pencoed yn enghraifft ddisglair o frwdfrydedd, dyfalbarhad a rhagoriaeth ym maes seiberddiogelwch.
"Mae ein merched anhygoel CyberFirst – Charlie, Amelia, Naomi a Carys – wedi dangos lefel anhygoel o ymroddiad, gan fireinio eu sgiliau mewn cryptograffeg, datrys problemau, hacio moesegol a gwaith fforensig digidol.
"Roedd eu hethos tîm diwyro wrth wraidd eu llwyddiant. Gan gefnogi ei gilydd trwy anawsterau, cydweithio'n ddi-dor o dan bwysau a chynnal meddylfryd cadarnhaol, roedden nhw'n ymgorffori gwir ysbryd gwydnwch ac arweinyddiaeth.
"Mae eu perfformiad eithriadol yng nghystadleuaeth 'Pencampwr y Pencampwyr', lle cyrhaeddodd frig y bwrdd sgorio i hawlio buddugoliaeth, yn dyst i'w gwaith caled a'u penderfyniad. Dim ond dechrau eu taith nhw yw hyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth maen nhw'n ei gyflawni nesaf."
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Mae bod â gweithlu amrywiol mor bwysig. Ym maes seiberddiogelwch yn benodol, mae gallu tynnu ar ystod o safbwyntiau a gwybodaeth amrywiol yn gallu helpu sefydliadau i nodi a lliniaru risgiau ymhellach.
"Rydyn ni mor falch o'n dysgwyr o Ysgol Gyfun Pencoed am eu cyflawniadau yng nghystadleuaeth Ysgolion CyberFirst Cymru yn y lle cyntaf, ac yn ddiweddarach am ennill yng nghystadleuaeth 'Pencampwr y Pencampwyr'.
"Rwy'n wir gobeithio y bydd y profiad hwn yn eu hysbrydoli nhw a merched yn y gymuned ehangach i ystyried dilyn gyrfa ym maes seiberddiogelwch – mae eich sgiliau yn cael eu cydnabod ac mae eu hangen nhw! Da iawn bawb!”
Lluniau: Tîm merched Ysgol Gyfun Pencoed yn ICC Cymru, Casnewydd.