Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd yn hawlio Gwobr Aur Siarter Iaith
Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025
Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd yw'r ysgol ddiweddaraf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn Gwobr Aur werthfawr Siarter Iaith. Mae'r anrhydedd boblogaidd yn adlewyrchu ymdrechion yr ysgol i ddilyn Siarter Iaith - rhaglen Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd ar gyfer lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ysbrydoli dysgwyr i ddathlu'r iaith a diwylliant Cymru ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Mae aelodau ymroddedig Criw Cymraeg yr ysgol wedi bod yn hyrwyddo’r Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn y gymuned ehangach. Mae strategaethau hwyl a diddorol wedi cynnwys cefnogi disgyblion o Ysgol Gynradd Betws i ddysgu Cymraeg drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys chwarae gemau iard Cymraeg; cysylltu â'r gymuned leol a dysgu ymadroddion Cymraeg i drigolion y pentref cyfagos, yn ogystal â chodi proffil caneuon Cymraeg ar draws y grwpiau oedran yn yr ysgol drwy ddigwyddiadau canu cymunedol.
Meddai Ollie, aelod o'r Criw Cymraeg: "Rwy'n teimlo'n falch o fod yn rhan o'r Criw Cymraeg ac wedi mwynhau cydweithio ag Ysgol Gynradd Betws a’u helpu gyda'u Cymraeg." Ychwanegodd disgybl arall, Willow: "Rydw i wedi mwynhau mynd o gwmpas y pentref yn dysgu ymadroddion Cymraeg i bobl - mae wedi bod yn hwyl!"
Meddai Miss Jones, arweinydd y fenter Siarter Iaith yn yr ysgol: "Mae'r Criw wedi gweithio fel tîm ac wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yng nghymuned yr ysgol - rwy'n hynod falch o bob un ohonyn nhw."
Dywedodd y Pennaeth, Catrin Coulthard: "Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymroddiad ac angerdd cymuned gyfan yr ysgol - staff, disgyblion, rhieni, llywodraethwyr, a'n partneriaid ehangach. Mae ein Criw Cymraeg wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig, yn arwain trwy esiampl ac yn annog eraill i gofleidio'r Gymraeg mewn ffordd hwyl ac ystyrlon.
"Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu at y cyflawniad anhygoel hwn – rydych chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd ein hysgol. Gadewch i ni ddathlu'r llwyddiant hwn gyda'n gilydd ac edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn – gan gadw'r Gymraeg yn fyw ffynnu yn ein hysgol a'n cymuned bob dydd!"
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: "Da iawn i bawb sydd wedi helpu gyda’r llwyddiant arbennig hwn.
"Mae'n wych gweld creadigrwydd ac angerdd y dysgwyr yn hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymru yn yr ardal."
"Mae'r disgyblion wedi manteisio ar y cyfle hwn i ymgysylltu â'u cymuned i ddysgu am dreftadaeth ac iaith Cymru. Rwy'n falch iawn ohonoch chi i gyd ac yn hynod ddiolchgar i'r staff sydd wedi eich cefnogi ar hyd y ffordd! Mae’r wobr hon yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad pawb. Ardderchog!”


